Llyfrgell Prifysgol Abertawe: bydd hyd at 70 o'r ysgoloriaethau ar gael bob blwyddyn.

Llyfrgell Prifysgol Abertawe:  bydd hyd at 70 o'r ysgoloriaethau ar gael bob blwyddyn.

Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio ysgoloriaethau mewn amrywiaeth eang o bynciau ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig tramor ar lefel PhD dramor sy'n cyflwyno ceisiadau i ddechrau astudio ym mis Medi 2024 ac sy'n gallu dangos cyflawniad academaidd rhagorol.

Bydd yr ysgoloriaethau'n golygu bod rhaid i ddeiliaid dalu'r ffïoedd cartref yn unig felly byddant yn talu'r un gyfradd â myfyrwyr y DU ar gyfer hyd eu rhaglen astudio. 

Bydd hyd at 70 o'r ysgoloriaethau hyn ar gael bob blwyddyn.  Fe'u hadwaenir fel Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ymchwil Ôl-raddedig Rhyngwladol Prifysgol Abertawe (SUIPRES).

Mae ysgoloriaethau SUIPRES ar agor i ymgeiswyr tramor ar gyfer rhaglenni PhD a Doethuriaeth Broffesiynol a fyddai fel arfer yn talu cyfradd ryngwladol y ffïoedd dysgu.  Dyfernir yr ysgoloriaethau ar sail teilyngdod i ymgeiswyr sy'n gallu dangos cyflawniad academaidd rhagorol.

I ddangos rhagoriaeth, byddai'n rhaid i ymgeiswyr ddarparu manylion am eu hanes academaidd ynghyd â gweithgareddau eraill a allai fod yn berthnasol, megis dyfarniadau a dderbyniwyd, gweithgareddau allgymorth neu brofiad o addysgu.

Mae ysgoloriaethau ar gael ar gyfer y rhaglenni canlynol:

Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (FHSS):

  • Yr Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol: Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol, Astudiaethau Datblygu/Datblygu Rhyngwladol, Athroniaeth
  • Cymdeithaseg a Throseddeg
  • Y Cyfryngau Cymdeithasol/y Dyniaethau Digidol
  • Y Clasuron, Hanes yr Hen-fyd ac Eifftoleg
  • Ieithyddiaeth Gymhwysol

Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg (FSE): yr holl raglenni PhD/Doethuriaeth Broffesiynol

Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd(FMHLS): rhaglenni penodol i'w cadarnhau.

Bydd ymgeiswyr y dyfernir ysgoloriaethau SUIPRES iddynt yn gorfod talu ffïoedd ar gyfradd y DU bob blwyddyn, yn hytrach na'r gyfradd ryngwladol. Mae rhagor o wybodaeth am ffïoedd dysgu ar gael o dan y manylion am y cwrs ar y tudalennau hyn.

Pwy sy'n gymwys:

Mae'r ysgoloriaeth ar agor i ymgeiswyr tramor sy'n bodloni'r canlynol:

  • dechrau rhaglen PhD neu Ddoethuriaeth Broffesiynol ym mis Medi 2024
  • byddent fel arfer yn talu cyfradd ryngwladol y ffïoedd dysgu
  • gallant ddangos cyflawniad academaidd rhagorol. 

Nid yw'r cynllun ar gael i fyfyrwyr PhD/Doethuriaeth Broffesiynol presennol neu ymgeiswyr sy'n cael eu noddi'n llawn gan drydydd parti.  Nid yw ar agor i gyrsiau lefel gradd Meistr.

Sut i wneud cais

Nid oes gweithdrefn ar wahân ar gyfer cyflwyno cais am ysgoloriaeth SUIPRES.  Dylai'r rhai hynny sydd am gael eu hystyried am y cynllun hwn nodi hynny yn ystod y broses arferol o gyflwyno cais am eu cyrsiau.

Yna rhoddir gwybod i ymgeiswyr yn eu llythyr cynnig a fyddent yn gymwys i gael ysgoloriaeth SUIPRES neu beidio.

Rhaid i ymgeiswyr gadarnhau bod ganddynt ddigon o arian i dalu'r ffïoedd sy'n weddill ar gyfer hyd cyfan y rhaglen yn ogystal â'u costau byw.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch y gyfadran berthnasol ar gyfer y cwrs rydych yn cyflwyno cais amdano:

Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol:

Ar gyfer rhaglenni yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu: pgr-cultureandcom@abertawe.ac.uk

Ar gyfer rhaglenni yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: pgr-socialsciences@abertawe.ac.uk

Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg:

scholarship-scienceengineering@abertawe.ac.uk;

Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

pgr-medicinehealthlifescience@abertawe.ac.uk;

Meddai'r Athro Gert Aarts, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig, 

“Mae myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wrth wraidd diwylliant ymchwil ac amgylchedd Prifysgol Abertawe, beth bynnag yw eu gwlad frodorol. Gan ystyried ei chymuned ryngwladol fawr o fyfyrwyr a staff, gall ymchwilwyr doethurol sy'n dod i Brifysgol Abertawe ddisgwyl cymorth rhagorol ar gyfer eu prosiectau ymchwil a'u hyfforddiant, ynghyd â'r cyfle i fwynhau ein hawyrgylch croesawgar a'n lleoliad delfrydol rhwng y mynyddoedd a'r môr.

Mae'r cynllun yn dangos ein hymroddiad i gefnogi myfyrwyr ymchwil rhyngwladol rhagorol, gan gynnal ein traddodiad o fod yn sefydliad agored a byd-eang ar gyfer cynnal ymchwil.

Rydym yn annog pawb sy'n gymwys ac sy'n bwriadu cyflwyno cais i astudio ym Mhrifysgol Abertawe i nodi eu bod am gael eu hystyried ar gyfer un o'r ysgoloriaethau hyn."

Ymchwil Prifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori