Y Wobr Dinesydd Byd-eang, SWELL A DIGWYDDIADAU

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, mae bywyd prifysgol yn fwy nag astudio'n unig. Dyna pam mae'r Tîm Cynaliadwyedd yn gweithio'n galed i gynnig llawer o gyfleoedd gwahanol i GYMRYD RHAN gyda'n gwaith cynaliadwyedd. Drwy ddod a chymryd rhan yn ein digwyddiadau a'n gweithgareddau, byddwch yn helpu i wella ein hamgylchedd a'n credadwyaeth gymdeithasol, yn ogystal â chael cyfle i gwrdd â phobl newydd, gwella eich cyflogadwyedd a chodi eich ymwybyddiaeth o faterion mwyaf dybryd heddiw.

Gallwch ddarllen mwy am SWell, ein cynllun Cynaliadwyedd a Lles sy'n gwobrwyo staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe am gymryd camau cadarnhaol, Y Wobr Dinesydd Byd-eang i fyfyrwyr a sut i ymuno â'n digwyddiadau isod.

SWell - Cynllun Cynaliadwyedd a Lles ar gyfer Myfyrwyr a Staff

SWell - Cynllun Cynaliadwyedd a Lles ar gyfer Myfyrwyr a Staff

Dau fyfyriwr yn seiclo gyda'i gilydd ar feiciau Santander

Hoffech chi ennill gwobrau am ofalu am eich llesiant, am wneud dewisiadau cynaliadwy ac am helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd?

Fel prifysgol, rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac rydym eisiau gwobrwyo’r staff a’r myfyrwyr hynny sy’n ein helpu i gyflawni ein nod. Dyna pam rydym wedi ail-lansio ein rhaglen SWell ar gyfer ein staff a’n myfyrwyr er mwyn esgor ar effaith fwy fyth a gwireddu’r ymrwymiadau yn ein Strategaeth Cynaliadwyedd ac Argyfwng Hinsawdd.

Ymunwch SWell

Digwyddiadau, Gweithgareddau a Gwirfoddoli

Rydym yn trefnu digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol trwy gydol y flwyddyn i fyfyrwyr a staff gymryd rhan ynddynt. Mae'r rhain yn amrywio o sesiynau glanhau’r traeth, sesiynau cadwraeth wythnosol i wirfoddolwyr, reidiau beic dan arweiniad, gweithdai, teithiau cerdded natur a thyfu bwyd ar y campws, ac enwi ychydig yn unig!

Gall myfyrwyr a staff ddarganfod beth sy'n digwydd trwy ymweld â'n tudalen Eventbrite i gael mwy o wybodaeth ac i archebu digwyddiadau. Gall myfyrwyr a staff hefyd ymuno â'n grŵp Gwirfoddolwyr Cadwraeth Twyni Crymlyn ar WhatsApp. 

Ein tudalen Eventbrite yma

Digwyddiadau a Gweithgareddau

Ymunwch a'n tim ar ein digwyddiadau

Pedwar gwirfoddolwr ar y traeth yn cymryd rhan mewn sesiwn codi sbwriel

Prosiectau Tyfu Tawe a Thyfu

Prosiectau Tyfu Tawe a Thyfu

Ymunwch ag un o'n sesiynau amser cinio

Tri o bobl yn y gwelyau uchel rhwng Horton ac adeilad Penmaen

Mae Tyfu Tawe, ein prosiect garddio i fyfyrwyr a staff, wedi codi gwelyau ar y ddau gampws ar gyfer tyfu llysiau a pherlysiau. Yn ogystal ag addysgu sgiliau garddio a chynnig y cyfle i gwrdd â phobl o'r un bryd, rhoddir y cynnyrch sy'n cael ei dyfu i ddigwyddiadau tymhorol yr Oergell Gymunedol.  

Cynhelir sesiynau sefydlu hygyrch yn ystod amser cinio bob mis drwy'r flwyddyn ac maent ar agor i bawb, gan gwrdd am 1pm ar ail ddydd Mawrth pob mis ar Gampws Parc Singleton rhwng llety Horton a llety Penmaen, ac ar ail ddydd Iau'r mis yn y gwelyau uchel ger Y Twyni ar Gampws y Bae.

Y Wobr Dinesydd Byd-eang am Myfyrwyr

Gall myfyrwyr unrhyw bwnc, mewn unrhyw flwyddyn o’u gradd, weithio tuag at ennill y wobr hon yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe. Mae cwblhau'r wobr yn cyfrannu at dy gofnod academaidd HEAR ac yn addysgu ystod eang o sgiliau i ti. 

Ceir rhagor o wybodaeth ar Canvas, ac anfonwch e-bost er mwyn gofyn am gael eich ychwanegu at ein rhestr e-bost i glywed am ddigwyddiadau sydd ar ddod.

Gall cymdeithasau myfyrwyr ac aelodau staff gyflwyno cais i'r Tîm Cynaliadwyedd am Gronfeydd Grantiau Gwyrdd am hyd at £250 ar gyfer prosiectau sy'n ymwneud â chynaliadwyedd. Darllenwch ragor a gweld y ffurflen gais: Ffurflen gais am Grant Gwyrdd.

Y Wobr Dinesydd Byd-eang Myfyrwyr

Ein rhaglen ymgysylltu â myfyrwyr nodedig yw'r Wobr Dinesydd Byd-eang

Myfyrwyr ar pont ar campws singleton