Dathlu

Rheolir cyfraniad y Brifysgol at yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymraeg drwy Academi Hywel Teifi. Rhan bwysig o waith yr Academi yw cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith Gymraeg a chryfhau enw'r Brifysgol fel sefydliad dwyieithog yng Nghymru. 

Mae Academi Hywel Teifi yn cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau diwylliannol i gyfoethogi diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg. At hynny, mae'r Academi yn trefnu presenoldeb cyfrwng Cymraeg y Brifysgol mewn digwyddiadau cenedlaethol gan arddangos ymchwil ac arbenigedd staff cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe.

Logo Dathlu