Mae dyfodol disglair yn aros myfyrwyr y Celfyddydau a'r Dyniaethau
Yn ogystal â'r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu datblygu drwy eich astudiaethau a'r cwricwlwm, mae'r Coleg yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a mentrau o ran cyflogadwyedd.
Rydym yn gweithio ar draws y Brifysgol, ac yn allanol gyda chyflogwyr, grwpiau sy'n cynrychioli cyflogwyr, cyrff proffesiynol, a sefydliadau rhyngwladol partner i roi cyfle i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig, boed yn fyfyrwyr o'r Deyrnas Gyfunol, yn fyfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd, neu'n fyfyrwyr rhyngwladol, i astudio dramor, i ymgymryd â lleoliad gwaith, i wneud interniaeth, neu i wneud gweithgarwch allgyrsiol. Rydym am sicrhau bod gan ein graddedigion sgiliau a rhinweddau rhagorol fel y gallant gystadlu a llwyddo yn y farchnad swyddi.