Bill Morris. Uwch-ymgynghorydd/Cadeirydd/Cyfarwyddwr Anweithredol/Ymddiriedolwr i Drefnwyr Digwyddiadau Byd-eang, Cwmnïoedd Digwyddiadau, a chyrff Diwylliant, Chwaraeon a'r Cyfryngau.
BA Daearyddiaeth. Dosbarth 1980.

Y tu ôl i'r llenni yn Seremoni Agoriadol y Gemau Olympaidd

Roedd y cyn-fyfyriwr Bill Morris yn un o'r ffigurau allweddol a oedd yn gyfrifol am ddod â seremoni Llundain 2012 yn fyw.

Gyda thîm o 20,000 a rhai o enwau enwocaf byd ffilm a theatr, gan gynnwys Danny Boyle a Stephen Daldry, roedd y prosiect hwn ar raddfa anferth. Ond sut mae cadw trosolwg ar yr holl ddarnau mân? A beth mae ei angen i gael y Frenhines i neidio allan o hofrennydd? Dyma'r cyfrinachau am y cynllunio, y risgiau a'r eiliadau bythgofiadwy a ddiffiniodd y gemau.

Sut daethoch chi i Brifysgol Abertawe?

Fel llawer o fyfyrwyr ysgol ar y pryd, gwnes i daith o amgylch y wlad i lefydd roeddwn i'n meddwl oedd â chyrsiau da mewn daearyddiaeth, ond yr un mor bwysig i mi oedd dod o hyd i rywle lle roeddwn i wir eisiau treulio amser. Pan ddes i lawr i Abertawe, roeddwn i'n dwlu ar y lle. Roeddwn i'n ddigon ffodus i gael 3 neu 4 cynnig gwahanol gan brifysgolion, ac roedd yr holl gyrsiau yn edrych yn eithaf da, ond roeddwn i wir yn meddwl bod Abertawe'n mynd i fod yn lle gwych i dreulio 3 neu 4 blynedd, ac felly roedd hi.

Oes gennych chi gynllun ar gyfer ar ôl graddio?

Wel, oes, gwnes i elwa lawer o'm cwrs daearyddiaeth, ac yn wir efallai gwnawn ni drafod yn ddiweddarach y ffaith fy mod i newydd fynd yn ôl i'r brifysgol i wneud rhywbeth sy'n gysylltiedig â daearyddiaeth. Felly, dydw i ddim am roi'r argraff nad oedd daearyddiaeth o bwys, ond y gwir amdani yw fy mod i wedi cael y syniad hwn yn eithaf cynnar y byddwn i wrth fy modd yn gweithio ym myd darlledu yn y cyfryngau, yn enwedig yn y BBC. Yn fwy na thebyg, gwnes i ymgolli yn newyddiaduraeth myfyrwyr, yr orsaf radio i fyfyrwyr, a phapur newydd y myfyrwyr, gyda mwy o frwdfrydedd ac egni nag yn fy naearyddiaeth. Gwnes i fwynhau'r cwrs yn fawr, yn enwedig daearyddiaeth ddynol. Roedd y cwrs yn dda, roedd yr addysgu'n wych, ac roedd y bobl roeddwn i ar y cwrs gyda nhw yn wych. Fodd bynnag, y peth y bydda i'n ddiolchgar amdano am byth i Abertawe yw'r cyfle i gymryd rhan yn y cyfryngau i fyfyrwyr. Yn y dyddiau hynny doedd dim cwrs cyfryngau, gwnes i gyfuno'r ddau a mwynhau'n fawr yr holl gyfleoedd a roddodd gwaith y cyfryngau i mi.

"... y peth y bydda i'n ddiolchgar amdano am byth i Abertawe yw'r cyfle..." 

A oedd gennych chi arbenigedd newyddiaduraeth yn y BBC?

Ar ôl i mi wneud fy ngradd yn Abertawe, oherwydd fy mod wedi gwneud cymaint o waith mewn papurau newydd i fyfyrwyr a gorsafoedd radio a phethau, roedd cyfle newydd i wneud blwyddyn Sabothol fel Swyddog y Wasg Undeb y Myfyrwyr. Roedd hynny'n golygu fy mod i i bob pwrpas yn rheoli'r orsaf radio a'r papur newydd am flwyddyn, gan roi cyfleoedd gwych i mi, gan gynnwys dirprwyaeth ryfeddol o fyfyrwyr i Libanus. Roedd pob un ohonynt, o ran cael gyrfa mewn newyddiaduraeth, yn rhyfeddol. Agorodd hynny'r drws i mi wneud cwrs ôl-raddedig mewn newyddiaduraeth ym Mhrifysgol y Ddinas yn Llundain, ac o'r fan honno, symudais i i'r BBC. I ddechrau, ar radio lleol. Pan roeddwn i'n gadael Prifysgol y Ddinas, roedd rhyfel y Falklands ar waith ac roedd y BBC wrthi'n creu ei sianel newyddion 24 awr gyntaf, a oedd yn denu llawer o newyddiadurwyr profiadol, ac roedd newydd-ddyfodiaid fel finnau'n cael cyflenwi ar eu cyfer. Felly, rwy'n teimlo rhywfaint o euogrwydd fy mod i wedi cael hwb gyrfa oherwydd y rhyfel. Yno, symudais ymlaen i Radio 4 yn y pen draw a gweithio ar lawer o'u rhaglenni ffeithiol ac ychydig ar y rhaglen Today, ond yn bennaf ar bethau fel "You and Yours", "Woman's Hour" a rhaglenni dogfen. Yna symudais o gwmpas lawer o adrannau gwahanol BBC Radio, yna i BBC Television mewn meysydd ffeithiol cyn symud i gynhyrchu digwyddiadau mawr yn y BBC.

Sut gwnaethoch chi ddechrau cynhyrchu digwyddiadau?

Yn y BBC, roeddwn i wedi gwneud llawer iawn o newyddiaduraeth ac yna symudais i waith cynhyrchu rhaglenni mwy cyffredinol ac yna i waith rheoli. Pan oeddwn i'n rheoli, roeddwn i'n gweld eisiau gwefr y sioe rydych chi'n ei chael pan fyddwch chi'n cynhyrchu rhaglen radio neu deledu. Ond rydych chi'n cyrraedd lefel benodol lle bu'n rhaid i chi symud i fod yn rheolwr. Ond roedd cyfle, felly, i oruchwylio digwyddiadau byw'r BBC. Felly, gwnes i gymryd rhan mewn pethau fel BBC Proms, gwyliau cerddorol, ac achlysuron fel cyngherddau Jiwbilî Aur y Frenhines ym Mhalas Buckingham, ac mae gwneud digwyddiadau ychydig fel cyffur. Rwy'n ofni unwaith i chi ddechrau, rydych chi'n gwneud rhai bach yna rydych chi am wneud rhai mwy a rhai mwy fyth. Ac felly, pan ddaeth y cyfle ar gyfer Llundain 2012 roedd yn gyfle rhy dda i'w golli, ac felly symudais o'r BBC i fod yn Gyfarwyddwr Seremonïau Diwylliant, Addysg a Safleoedd Byw ar gyfer Pwyllgor Trefnu Llundain 2012. Yn y pen draw, y gemau Olympaidd yw'r digwyddiad mwyaf sydd, felly roeddwn i'n hynod lwcus y cyrhaeddodd fy ninas pan roeddwn i'n gwneud y math yna o beth.

Mae'r Gemau Olympaidd yn seremoni enfawr. Sut rydych chi'n cadw trosolwg ar yr holl ddarnau mân?

Rydych chi'n iawn, mae'n brosiect enfawr. Hyd yn oed yn y sector seremonïau'n unig, roedd gennym ni dîm o 20,000 o bobl, gan gynnwys cast, criw, gwirfoddolwyr a staff amser llawn. Ond yr ateb gonest yw bod angen dod â'r bobl iawn ynghyd.

Y gamp yw dewis y bobl iawn sy'n arbenigwyr yn eu maes. Rydym yn hynod ffodus yn y DU i gael sector diwylliannol, creadigol a digwyddiadau gwych sydd yn wirioneddol o'r radd flaenaf. Weithiau mae pobl yn teimlo'n isel eu hysbryd bod pethau nad ydym ni'n eu gwneud yn dda, ond yn wir, mae'r diwydiannau creadigol a digwyddiadau sioe yn y DU ar y brig.

Faint o amser mae ei angen i greu seremoni agoriadol?

Ymunais i â'r Pwyllgor Trefnu yn 2006, chwe blynedd cyn y gemau, a dechreuais i weithio ar y seremoni agoriadol ar y diwrnod cyntaf. Mewn gwirionedd, cyn i mi gyrraedd. Mae hynny'n wahanol iawn i'r manylion sy'n dod yn llawer diweddarach, ond fydda i byth yn anghofio tua phythefnos ar ôl i mi ymuno â'r pwyllgor trefnu, ar rybudd 24 awr, cefais fy nhynnu i mewn i gyfarfod gyda chriw o benseiri, cynllunwyr a pheirianwyr a oedd yn llunio'r cynlluniau ar gyfer y stadiwm; dywedon nhw wrthyf 'rydyn ni'n falch eich bod wedi cael eich penodi i'r rôl hon oherwydd gallwch ddweud wrthym sut y dylen ni ddylunio stadiwm ar gyfer eich seremonïau, beth mae ei angen arnoch a ble?'. Nid oedd gen i'r syniad cyntaf, roedd hi tua 3 blynedd yn rhy gynnar i fod mor fanwl â hynny ond er clod mawr iddynt gwnaethant roi ychydig o wythnosau yn fwy i mi a chefais arbenigwyr a oedd yn gallu rhoi cyngor ar bethau fel maint y mynedfeydd, lle i roi'r ceblau, a sut i adeiladu tyrau goleuo. Arbedodd hynny lawer o arian i ni yn ddiweddarach oherwydd bod modd i ni eu hadeiladu ym mhensaernïaeth y stadiwm. Felly, roedd dechrau'r math hwnnw o beth 6 mlynedd ymlaen llaw yn hynod werthfawr. Penodon ni'r tîm creadigol, pobl fel Danny Boyle, Martin Green a Stephen Daldry, tua thair blynedd cyn y Gemau a daeth y syniadau mewn tonnau. Dyna pryd dechreuodd y rhan fwyaf o'r gwaith creadigol, a dechreuodd y manylion dod at ei gilydd tua dwy flynedd cyn y Gemau.

2012 Olympic Ceremony

Beth yw'r camau cyntaf o ran creu'r seremoni 6 mlynedd ymlaen llaw?

Mae'r cam hwnnw'n ymwneud â chwmpasu yn bennaf. Mae'n ymwneud â'r raddfa y mae ei hangen, ac felly y sgyrsiau am y stadiwm, pa fath o gyfleusterau y dylen ni eu cynnwys yn y stadiwm, ac yn hollbwysig, yr hyn y gallwn ni ei fforddio. Un o'r heriau mwyaf roedden ni'n ei hwynebu yn ystod y blynyddoedd cynnar hynny oedd cael ein heffeithio gan argyfwng ariannol byd-eang 2008. Aethon ni i gyd i Beijing ar gyfer Gemau Olympaidd 2008, a oedd yn anhygoel mewn cynifer o ffyrdd, ond roedd y raddfa a'r adnoddau a roddwyd ar waith ar gyfer y gemau hynny yn gwbl wahanol i unrhyw beth a oedd wedi bod ynghynt. Roedd hi'n amlwg iawn i ni na fyddai modd i gemau Llunain gymharu â Tsieina o ran graddfa. Nid dyna oedd ein meddylfryd beth bynnag, ond roedden ni'n gweld pa mor anferth, crand a pherffaith oedd yr hyn roedd Tsieina wedi'i gyflawni yn eu gemau, ac yn eu seremonïau yn benodol. Roedden ni'n meddwl bod byd o wahaniaeth rhwng y rhain a'r hyn roedd modd i ni ei wneud. Ac yna cyrhaeddodd yr argyfwng ariannol. Roedden ni'n gwybod y byddai arian yn dynn iawn, ac ni fyddai'r DU yn ystyried gwario'r math hwnnw o arian. Felly roedd rhaid i ni feddwl yn hir ac yn galed am y cryderau y gallen ni fanteisio arnynt yn lle hynny, a'r hyn y byddai'n arbennig ac yn unigryw i ni. Beth byddai'r DU yn ei gyfleu yn 2012 a oedd yn teimlo'n iawn?

Yn anochel roedd arian yn broblem ac roedd yn rhaid i ni ymaflyd i ddod o hyd i'r gyllideb roedden ni ei heisiau, ond y cam nesaf ar ôl hynny oedd mynd allan a gofyn i'r DU beth oedd y wlad ei heisiau, nid beth y dylid ei gynnwys yn y sioe, ond sut dylen ni adlewyrchu'r wlad? Felly arweiniodd Martin Green brosiect a oedd yn cynnal cyfarfodydd ledled y wlad, lle aethom i gwrdd â grwpiau creadigol, myfyrwyr, pobl ym maes twristiaeth, chwaraeon, a llawer o sectorau gwahanol. Gwnaethon ni gynnal gweithdai undydd, gan ofyn, beth yw'r Deyrnas Unedig yn ei olygu? Beth ddylen ni ddweud wrth y byd am y Deyrnas Unedig? Pa fath o bethau rydyn ni'n teimlo bod angen eu dweud? Beth rydyn ni'n ymfalchïo ynddo? Cafodd nifer o negeseuon pwysig eu cyfleu; nid oedden nhw eisiau adlewyrchiad o hanes yn unig, ond doedden nhw ddim eisiau i ni anwybyddu hanes chwaith. Un o'r pethau rydw i'n eu cofio'n glir iawn oedd bod pobl yn dweud na ddylen ni gymryd ein hunain gormod o ddifri. Rydyn ni'n enwog am ein synnwyr digrifwch, a dylen ni ddefnyddio hynny.

"Diflannodd Danny am tua 3 mis gyda thîm creadigol bach, ac roedd y seremoni a greodd ac a ddaeth â hi yn ôl atom yn ymateb nid yn unig i'w ddisgleirdeb ei hun ond i'r safbwyntiau a'r syniadau a'r mynegiannau rydyn ni wedi'u clywed gan y bobl hynny ledled y wlad."

Yn y pen draw, bu nifer o adegau pwysig iawn pan wnaethon ni joio, mewn gwirionedd. Mae'r Frenhines yn neidio o hofrennydd yn anhygoel ac yn eithaf doniol hefyd. Roedd Rowan Atkinson gyda Mr Bean; rwy'n credu bydd llawer o bobl yn cofio hynny bob amser. Felly, gwnaethon ni ddysgu llawer o'r ymgynghoriadau cychwynnol hynny ar gyfer yr hyn yr oedd y DU yn teimlo y dylid ei gynrychioli. Gwnaethon ni greu coflen o'r holl wybodaeth honno ac yna, ychydig fisoedd yn ddiweddarach, gwnaethon ni benodi Danny Boyle a'i dîm a rhoi'r holl waith ymchwil hwn iddynt. Dywedon ni, 'dyma'r ymateb, nid o'r hyn mae pobl yn dweud y dylech chi ei roi yn eich seremoni, ond sut roedden nhw'n teimlo am y wlad'. Yna diflannodd Danny am tua 3 mis gyda thîm creadigol bach, ac roedd y seremoni a greodd ac a ddaeth â hi yn ôl atom yn ymateb nid yn unig i'w ddisgleirdeb ei hun ond i'r safbwyntiau a'r syniadau a'r mynegiannau rydyn ni wedi'u clywed gan y bobl hynny ledled y wlad.

A oes unrhyw beth erioed yn mynd o'i le? A fu adegau pan oeddech chi'n panicio?

Oes. Diolch byth, os ydych chi'n lwcus, does dim gormod yn mynd o'i le sy'n amlwg i wylwyr, ond y tu ôl i'r llenni, wrth gwrs, rydych chi'n rhuthro o gwmpas fel wn i ddim beth. Rydw i wrth fy modd â chwaraeon, peidiwch â'm camddeall. Rydw i'n hoff iawn o chwaraeon ond dydw i ddim yn arbenigwr chwaraeon, roeddwn i yno ar gyfer y seremonïau, y diwylliant, addysg, y safleoedd byw â sgriniau mawr, y math yna o beth. Roedd y ras gyfnewid ffagl yn un arall o'm prosiectau, rydw i'n dwlu arno. Ond yr hyn sy'n uno llawer o'r pethau hynny, p'un ai'r gamp neu'r seremoni, yw mai dim ond un cyfle a gewch chi. Mae'n fyw. Os bydd yn mynd o'i le, ni allwch ddweud, 'byddwn ni'n gwneud un gwell yfory'. Nid yw fel cynhyrchu ffilm lle gallwch fynd ag ef i mewn i ystafelloedd golygu a chwarae o gwmpas gydag ef neu fynd i ail-ffilmio rhywbeth a gweithio arno hyd nes ei fod yn berffaith. Nid yw hyd yn oed fel sioe yn y West End, lle os cewch chi noson wael, bydd un gwell yfory. Y seremoni agoriadol, yn benodol, sydd â'r gynulleidfa fwyaf ar gyfer unrhyw ddigwyddiad yn y byd. Mae'n fyw, ac mae gennych chi'r byd yn gwylio, felly mae'n gynnig risg uchel yn y lle cyntaf. Bu pwysau arbennig o ganlyniad i ddilyn Tsieina, ac a dweud y gwir, roedd y cyfryngau Prydeinig a rhai o'r cyhoedd yn paratoi ar gyfer noson o gywilydd. Roedd yna o leiaf nerfusrwydd ynghylch a allen ni gyflawni rhywbeth a fyddai'n gwneud i'r wlad fod yn falch.

Tua 10 niwrnod cyn y seremoni, gwnaethon ni'r ymarferion terfynol cyn i ni gael torf i mewn. Roedden ni'n dechrau rhoi holl ddarnau gwahanol y seremoni at ei gilydd, ond doedd hi ddim yn hollol gyflawn. I dorri stori hir yn fyr, ni aeth yr ymarfer yn dda. Doedd hi ddim yn noson dda, es i'n ôl i'm fflat bach yn y Docklands ac roeddwn i'n methu cysgu oherwydd, a dweud y gwir, erbyn hynny nid oes llawer y gallwch chi ei wneud i newid sioe fawr fel yna heblaw gwneud iddi lwyddo. Troais y teledu ymlaen tua 3 neu 4 o'r gloch y bore, a dyna'r cyfnod pan oedd gemau Llundain 2012 yn cael argyfwng diogelwch. Nid oedd llawer o warchodwyr diogelwch a oedd wedi cael eu trefnu gan un o'r cwmnïau diogelwch mawr, yn dod i’r gwaith. Roedd penderfyniad newydd gael ei wneud i ddod â'r fyddin i mewn, a oedd yn benderfyniad gwych. Roedd yn gweithio'n dda ond, ar yr union foment honno, roedd prif weithredwr y cwmni diogelwch wedi cael ei ddwyn gerbron Tŷ'r Cyffredin i gael ei groesholi gan y pwyllgor dethol, ac fel roedd yn digwydd roedden nhw'n ail-ddangos y cyfweliad hwnnw wrth i mi droi'r teledu ymlaen. Dydych chi erioed wedi gweld rhywun yn cael ei rwygo’n ddarnau gan yr Aelodau Seneddol yn y ffordd yr oedd ef, am siomi'r wlad ar adeg o angen mawr. Allwn i ddim meddwl am ddim byd heblaw'r ffaith mai fi fyddai yno mewn 3 mis! Yn fwy na thebyg, byddwn i'n cael fy llusgo i mewn i'r un pwyllgor a'm rhwygo’n ddarnau am fod yn gyfrifol am seremoni agoriadol affwysol. Diolch byth na ddigwyddodd hynny. Roedd y sioe yn dda ac roedd llawer o bobl yn ei hoffi. 

2012 Olympic Torch Relay

Roedd Danny Boyle yn adnabyddus am fod yn gyfarwyddwr ffilm. Felly sut gwnaethoch chi lwyddo i gael ei help mewn rhywbeth sydd ychydig y tu allan i'r hyn y byddai'n ei wneud fel arfer?

Mae hynny'n enghraifft ddiddorol ohonom ni'n mentro’n ofalus i liniaru risg. Mae'n rhywbeth rydw i’n cyflwyno sgyrsiau amdano i bobl fusnes oherwydd ei fod yn dod yn ôl i'r pethau roeddwn i'n sôn amdanyn nhw'n gynharach - na allai'r DU fyth fod yn Tsieina. Roedd yn rhaid i ni fanteisio ar ein cryfderau, nid ceisio copïo'r rhai oedd wedi bod o'r blaen. Mae yna nifer o gwmnïau cynhyrchu talentog iawn sy'n teithio’r byd yn dylunio seremonïau Olympaidd, ac maen nhw'n gwneud gwaith da iawn, ond pe baen ni wedi mynd at un ohonynt, bydden ni wedi cael fersiwn â chyllideb is o'r hyn sydd wedi digwydd mewn mannau eraill. Felly, gwnaethon ni'r penderfyniad y byddai'n rhaid i ni fynd i gyfeiriad gwahanol. Byddai'n rhaid i ni wneud rhywbeth a oedd yn unigryw Brydeinig. Felly, roedden ni'n chwilio am ddawn greadigol a oedd yn dra unigryw ac yn deall y DU. Roedd yn rhaid iddyn nhw gael dealltwriaeth o sensitifrwydd a hiwmor Prydeinig, a realiti byw yn y DU. 

Roedd yn rhaid eu bod nhw'n gyfarwydd â gweithio ar raddfa, ac mae hynny'n wir am gynhyrchwyr ffilm; os ydych chi'n creu ffilm i’r sinema, rydych chi'n symud byddinoedd o gwmpas, a dweud y gwir. Mae angen deall y teledu, oherwydd i'r rhan fwyaf o bobl, biliynau o bobl ym mhedwar ban byd, ar y teledu y bydden nhw'n gwylio hyn. Ac mewn gwirionedd, sioe fyw unigryw yw hon. Felly, os oes gennych chi brofiad o theatr fyw, mae hynny'n wych hefyd. Fel mae'n digwydd, mae Danny wedi gwneud pob un o'r rheiny. Mae hefyd ganddo ddealltwriaeth fympwyol o ddiwylliant Prydeinig; mae'n ei ddeall ac mae'n ymfalchïo'n fawr mewn llawer o agweddau ar fywyd cyffredin ym Mhrydain ac roedd am eu rhannu.

Felly, ie, roedd yn risg, oherwydd nid oedd ef erioed wedi gwneud seremoni agoriadol Olympaidd, ac nid yw ef erioed wedi cynhyrchu digwyddiad byw ar y raddfa honno, ond penderfynon ni ei ddewis ef. Gallen ni roi rhai o'r sgiliau eraill hynny o'i gwmpas yn y tîm cynhyrchu. Gwnaethon ni dynnu pobl i mewn a oedd wedi gwneud yr holl bethau hynny o'r blaen, ond roedden ni eisiau'r synhwyrau creadigol arbennig iawn y gallai ef a'i dîm eu cynnig.

Sut yn y byd gwnaethoch chi gael y Frenhines i gytuno i neidio allan o hofrennydd? Sut sgwrs oedd honno?

Mae'n stori hir, ond daeth y syniad gan Danny a'i dîm creadigol, a gwnaethon nhw ei awgrymu i mi a Martin Green tua blwyddyn cyn y seremoni ei hun. Roeddent wedi creu animeiddiad cyfrifiadurol i ddangos yr hyn oedd ganddynt mewn golwg a oedd yn hynod o debyg i'r hyn a ddigwyddodd yn y pen draw a phan welais i hynny, roeddwn i'n gwybod y byddai hyn yn llwyddiant mawr. Ond cloais i'r cof bach yn fy nesg a meddwl, dyna'r peth gorau y bydda i erioed yn ei weld na fydd byth yn digwydd mewn gwirionedd! Doeddwn i ddim yn gallu meddwl sut roedden ni'n mynd i gyflawni hyn, oherwydd, bryd hynny, roedd enw da'r Frenhines yn uchel iawn. Doedd dim byd ganddi i'w brofi a doedd dim angen iddi gymryd unrhyw fath o risgiau. Roedd y prosiect hwn yn amlwg yn llawn risg, nid y risg gorfforol iddi, ond y risg o sut y byddai hi'n cael ei gweld, a sut bydden ni'n ei gyflwyno. A fyddai hi'n edrych yn dwp? Yn y pen draw, mae'n rhaid i chi gael 2 barasiwtydd stỳnt yn neidio allan o hofrennydd, yn fyw o flaen biliynau o bobl yn gwylio ledled y byd dros stadiwm prysur iawn. Er bod gennych chi’r bobl orau yn y byd yn gwneud hynny, mae yna elfen o risg yn hynny. Oherwydd fy mod i wedi gweithio ar y Jiwbilî Aur a phethau felly o’r blaen, aethon ni at bobl wahanol ac roedd ysgrifennydd preifat y Frenhines yn hynod gymwynasgar ac yn ddoeth iawn yn ei gyngor. Gwnaethon nhw oedi cryn dipyn cyn dod o hyd i’r foment iawn i rannu’r syniad hwn â’r Frenhines. Er ein cyffro a'n syfrdandod enfawr, cytunodd hi; ei phenderfyniad personol hi oedd hwn, a gwnaeth hi ei gadw'n hynod gyfrinachol. Doedd hi ddim wedi dweud wrth weddill y teulu. Doedd gennym ni ddim syniad, gyda llaw, ei bod hi'n mynd i fod yn actores. Roedden ni'n brysur yn meddwl am bwy y cawn ni chwarae rôl y Frenhines, ac roedd hi'n hwyr iawn yn y dydd pan roedden ni'n trafod gwisgoedd daeth hi'n amlwg o'r ceisiadau am wybodaeth gan y palas am yr hyn y dylai hi wisgo fod y frenhines ei hun eisiau bod yn y ffilm. Roedd y Frenhines yn llawer mwy cefnogol i'r holl brosiect a’r gallu i wireddu Llundain 2012 nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli dw i'n credu, ac aeth hi ymhell y tu hwnt i'r gofynion i wneud pethau fel hynny'n bosib i ni. Dw i'n credu mai dyna un o'r pethau dylai'r wlad fod yn hynod ddiolchgar amdano oherwydd dyna un o'r eiliadau wnaeth ddiffinio'r gemau. A hi wnaeth i hynny ddigwydd.

"Roedd y Frenhines yn llawer mwy cefnogol i'r holl brosiect a’r gallu i wireddu Llundain 2012 nag y mae'r rhan fwyaf o bobl yn sylweddoli dw i'n credu, ac aeth hi ymhell y tu hwnt i'r gofynion i wneud pethau fel hynny'n bosib i ni."

A oes unrhyw brosiectau neu seremonïau penodol rydych chi wedi gweithio arnyn nhw sydd wedi bod yn ffefryn i chi?

Rwy'n credu y bydd unrhyw gynhyrchwr digwyddiadau yn dweud wrthych chi mai natur y digwyddiadau yw bod angen pobl sy'n treulio eu bywyd yn craffu ar y manylion, yn cael yr holl wrthrychau symudol hyn i'r lle iawn ar yr adeg iawn, ac eto yn mynd i'r gwely bob nos gan wybod nad ydych chi wedi cyflawni popeth eto. Dim ond natur y digwyddiadau yw hyn. Rydych chi'n byw gydag ansicrwydd ond yn treulio'ch bywyd yn ceisio eu troi'n sicrwydd. Roeddwn i'n cynnal cynhadledd fach i'r Sefydliad Diwylliannol ddoe, a hyd yn oed wrth wneud cynhadledd fach fel yna; mae gennych chi'r union yr un teimladau. Rwy'n credu mai'r realiti yw na fydd gen i fyth brosiect fel seremoni Llundain 2012 eto oherwydd y gemau hynny yw'r mwyaf a gewch chi, ac ni fydd unrhyw beth arall yn cyfateb i hynny i mi. Ond rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ar lawer o ddigwyddiadau Olympaidd a gwladol eraill ers hynny.

A oes unrhyw wledydd rydych chi wedi mynd iddyn nhw sy'n haeddu clod?

Wel, roeddwn i wedi bod yn hynod lwcus drwy'r gwaith hwn yn 2012, ac roeddwn i eisiau aros yn y mudiad Olympaidd, felly des i'n ymgynghorydd i'r Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. O ganlyniad i hynny, maen nhw wedi mynd â fi i bob un o'r Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd ers Llundain. Cefais amser bendigedig yn Rio; mae'n ddinas anhygoel ac yn ddiwylliant gwych. Symudon ni ymlaen i Corea, a oedd yn lle newydd i mi gan nad oeddwn i erioed wedi gweithio yno mewn gwirionedd, ac roedd y diwylliant mor wahanol. Mae Tokyo yn ddinas mor anhygoel, fel y mae Beijing. Cyn hynny, mwynheais i dreulio amser yn Vancouver, lle cynhaliwyd Gemau Olympaidd y Gaeaf 2010, ac ni allwn i fod wedi dod o hyd i grŵp o bobl fwy cynnes a hael.

Oes rhaid i chi ymdrin â digwyddiadau'r Jiwbilî yn wahanol i'r Gemau Olympaidd?

Mae mwy o debygrwydd nag y byddech chi'n ei ddychmygu; yn y ddau achos, rydych chi'n ymdrin â sefydliadau sydd â ffyrdd o wneud pethau a phrotocolau y mae'n rhaid i chi lynu wrthynt a'u coleddu. Mewn seremoni Olympaidd, mae'r foment tanio'r pair, yr areithiau, y darnau y mae'n rhaid eu bod yno bob tro, a'r un peth mewn jiwbilî. Bydd darnau penodol o'r protocol wedi'u cynnwys mewn dathliad jiwbilî y mae'n rhaid i chi eu dilyn. Eto i gyd, mae'n rhaid i chi ddod o hyd i le yn y strwythur disgybledig hwn i adael i'r creadigrwydd lifo. Yn achos cyngherddau'r Jiwbilî, roedd rhaid sicrhau bod y cerddorion yn gallu gwneud yr hyn maen nhw'n ei wneud yn wych. Ac yn achos y seremoni Olympaidd, mae bron yn hanner protocol oherwydd yr amser mae'n ei gymryd ar gyfer gorymdaith yr athletwyr, ond roedd angen i Danny Boyle a'i dîm hefyd gael cymaint o ryddid creadigol ag y gallen ni ei roi iddynt a’r adnoddau i wneud hynny. Yn jiwbilî 2002, gwnaeth y Frenhines benderfyniadau beiddgar i agor ei gardd am y tro cyntaf ar gyfer cyngherddau cyhoeddus. Roedd hyn wir yn newid y drefn; roedd yn arwydd bod y Frenhines a'r teulu brenhinol wedi datgelu eu hunain mewn ffordd nad oedden nhw wedi'i gwneud o'r blaen, i'r cyhoedd ac i ddiwylliant poblogaidd, a chymeron nhw risgiau wrth wneud hynny, ond rwy'n credu ei fod wedi llwyddo. Roedd hi'n debyg bod y cyhoedd a'r teulu brenhinol wedi ei fwynhau.

Dywedwch wrthym am eich astudiaethau diweddar

Es i'n ôl i'r brifysgol ddwy flynedd yn ôl, yn ystod y cyfyngiadau symud; roeddwn i wrth fy modd, a gwnaeth fy atgoffa o'm hamser yn Abertawe. Astudiais i am gwrs Meistr mewn datblygu trefol cynaliadwy a oedd yn cysylltu'n ôl â'r ddaearyddiaeth a astudiais yn Abertawe, ond gallwn i ei gysylltu â digwyddiadau mawr hefyd. Roedd fy nhraethawd hir yn ymwneud â sut y gallai digwyddiadau mawr helpu dinasoedd i lywio i ddyfodol mwy cynaliadwy. Roeddwn i eisiau mynd yn ôl i'r byd academaidd oherwydd pan oeddwn ni yn Abertawe, rwy'n credu fy mod i'n rhy gaeth ar y pryd o ran eisiau gwneud newyddiaduraeth myfyrwyr i fwynhau'r ochr academaidd. Mae'n teimlo bellach fel moethusrwydd i allu mynd yn ôl i'r byd academaidd a cheisio defnyddio fy meddwl ar gyfer hynny. Bydda i'n gwbl onest gyda chi, roedd y tro cyntaf i mi orfod eistedd i lawr ac ysgrifennu traethawd ar ôl bron 40 mlynedd yn foment o drawma ofnadwy. Eisteddais o flaen y gliniadur hwn am ryw awr, a doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i'r geiriau i'w rhoi ar y dudalen, ac rydw i'n newyddiadurwr! Ond mae'r ddisgyblaeth o ysgrifennu traethawd academaidd, a meddwl mewn ffordd strwythuredig iawn, yn wych ond ni ddaeth yn hawdd. Felly, rwy'n edrych yn ôl ar brofiad Abertawe gyda chynhesrwydd go iawn, ac roedd hi’n braf mynd yn ôl i astudio yn ddiweddarach mewn bywyd. Roeddwn i'n gallu canolbwyntio arno'n iawn; efallai fy mod i'n rhy ifanc pan ddechreuais i ac roeddwn i'n canolbwyntio gormod ar newyddiaduraeth myfyrwyr. Dyma fi yng nghanol fy chwe degau, yn dal i ddysgu a dyna sy'n rhaid i chi ei wneud.

Ydych chi'n meddwl bod ymchwil academaidd yn bwysig mewn digwyddiadau?

Mae un o'r sefydliadau rwy'n gweithio gyda nhw yn cysylltu'n agos ag academyddion. Gwnaethon ni brosiect y llynedd o'r enw Ymchwiliad Cenedlaethol y DU i effaith gymdeithasol digwyddiadau, gan weithio gydag academyddion, trefnwyr digwyddiadau, dinasoedd, arweinwyr cymunedol a phobl greadigol. Mae digwyddiad, yn ôl ei natur, yn rhywbeth unigol a byrhoedlog. Mae'n digwydd, ac mae wedi mynd drannoeth, ac eto mae'n gatalydd anhygoel o bwerus. Mae pethau, pobl, sefydliadau a strwythurau yn newid er mwyn cynnal y digwyddiad, neu oherwydd effaith y digwyddiad. Felly, yn enwedig pan fyddwch yn gwario llawer o arian cyhoeddus ar ddigwyddiadau fel hyn, mae gennym gyfrifoldeb enfawr i greu sbardun yn y digwyddiad sy'n foment arbennig, a hefyd ddal cymaint o'r budd hirdymor ag y gallwn ni. Sut ydyn ni'n defnyddio'r sbardun hwn, cyhyd ag y gallwn ni a gwneud y pethau cywir? Mae llawer o hynny'n golygu bod yn glir ar y dechrau nad ydych dim ond yn cynnal digwyddiad ond bod gennych nod hirach mewn golwg. Yn achos rhywbeth fel y gemau Olympaidd, bydd llawer o drefnwyr yn edrych ar sut y bydd hyn yn effeithio ar eu dinas am yr 20 neu hyd yn oed y 30 mlynedd nesaf. Graddfa'r buddsoddiad y gallwch ddewis ei defnyddio, i ailstrwythuro'ch dinas, neu a dweud y gwir, i ailstrwythuro'ch cymdeithas. Sut rydych chi'n ymdrin â phethau fel newid yn yr hinsawdd? Sut rydych chi'n helpu'ch cymuned i gyrraedd sero net gydag eiliad catalytig fel yna? Gall y digwyddiadau cywir a wneir yn y ffordd gywir, gyda'r holl seilwaith cywir o'u cwmpas, gael effaith enfawr yn y mannau hynny, ond dim ond os ydych chi'n ei gynllunio'n ofalus. Felly, y peth arall y mae gen i ddiddordeb ynddo nawr yw'r holl waith ymlaen llaw ac yn ddilynol, i elwa o gyfanswm y digwyddiad i gael yr effaith gywir yn hytrach na dim ond y foment ei hun.

Dywedwch ragor wrthym am eich cyfranogiad mewn seremonïau paralympaidd

Mae'r seremonïau paralympaidd yn gyfrifoldeb yr un mor fawr ac, mewn rhai ffyrdd, yn fwy o gyfrifoldeb. Fel mae'n digwydd, ddoe treuliais i lawer o amser gydag un o gyfarwyddwyr creadigol Seremoni Agoriadol Gemau Paralympaidd Llundain 2012, ac mae hi'n fenyw ryfeddol. Roedd ymdeimlad gyda'r seremonïau Paralympaidd hynny ein bod yn pwnio'r byd i gyfeiriad ychydig yn wahanol, yn newid cymdeithas a'i hagweddau at fynediad, cynhwysiant ac anabledd. Mae'r symudiad paralympaidd yn rhyfeddol. Mae gan y cyd-gyfarwyddwr creadigol, Jenny Sealey, anabledd ac mae'n credu bod y gemau wedi symud yr agenda yn sylweddol. Roedd ymateb y cyhoedd yn anhygoel. Yn sicr, yn y mudiad paralympaidd, dyma'r tro cyntaf iddyn nhw weld stadia llawn a meysydd chwaraeon ar gyfer popeth. Nawr, dydw i ddim yn gwybod a yw hynny oherwydd yr hyn a wnaethom neu dim ond natur y DU. Roedd pawb eisiau bod yn rhan ohono; prynon nhw i gyd docynnau a dod draw; roedd yn awyrgylch hyfryd. Rwy'n credu bod pobl yn gallu uniaethu â'r athletwyr mewn ffordd wahanol, efallai oherwydd bod gan bob athletwr stori ryfeddol, a gallai pawb uniaethu â hynny. Roedd yr un mor gofiadwy â'r gemau Olympaidd. Heb os.