Trosolwg
Mae Brigid Haines wedi cyhoeddi’n eang ar ysgrifennu yn yr Almaeneg gan fenywod ac ar ysgrifennu Almaeneg o ddwyrain Ewrop. Un ffocws penodol fu gwaith yr awdur ac enillydd gwobr Nobel, Herta Müller, sydd wedi ymweld â Chanolfan Diwylliant Almaeneg Gyfoes Prifysgol Abertawe ddwywaith ac sy’n Gymrawd Anrhydeddus y Brifysgol. Ar wahoddiad Dr Haines hefyd, cyflwynodd Frau Müller ddarlleniad yn y Llyfrgell Brydeinig yn 2017. Mae Dr Haines wedi goruchwylio cwblhad pedair gradd PhD, a bu’n Gadeirydd mudiad Women in German Studies rhwng 2015 a 2019.