An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Professor Daniel Power

Yr Athro Daniel Power

Athro mewn Hanes Canoloesol, History

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602412

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Cwblhaodd Daniel Power ei BA a’i PhD ym Mhrifysgol Caergrawnt, lle’r oedd wedyn yn gymrawd ymchwil, a bu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Sheffield o 1996. Mae wedi bod yn Athro Hanes Canoloesol ym Mhrifysgol Abertawe ers 2007.

Mae ei ymchwil yn ymwneud â hanes Ffrainc a Phrydain yn yr Oesoedd Canol canolig (yn enwedig y deyrnas Eingl-Normanaidd, Ymerodraeth brenhinoedd Angefin, a Ffrainc yn y cyfnod Capetaidd), a chymdeithasau chyffinwledydd canoloesol. Mae ei gyhoeddiadau blaenorol yn cynnwys The Norman Frontier in the Twelfth and Early Thirteenth Centuries(Caergrawnt: Cambridge University Press, 2004), a golygodd The Central Middle Ages (Short Oxford History of Europe) (Rhydychen: Oxford University Press, 2006) a (gyda Naomi Standen) Frontiers in Question: Eurasian Borderlands 700-1700 (Basingstoke: Macmillan Press, 1999).

Yn fwy diweddar, mae ei ymchwil wedi canolbwyntio ar fonedd Eingl-Normanaidd ar ôl cwymp y deyrnas Eingl-Normanaidd yn 1204. Rhwng 2016 a 2018, roedd yn ddeiliad Cymrodoriaeth Ymchwil Fawr Leverhulme ar gyfer y prosiect ‘The Separation of England and France, 1204-1259’, a oedd yn ymchwilio i ddadfeiliad y cysylltiadau gwleidyddol a chymdeithasol a sefydlwyd rhwng Lloegr a Gogledd Ffrainc yn ystod y cyfnod Eingl-Normanaidd. Ochr yn ochr â’r prosiect ymchwil hwn, mae hefyd yn paratoi argraffiad beirniadol o siarteri cwnstabliaid Normandi yn y 12fed a’r 13eg ganrif. Mae rhai o’i gyhoeddiadau diweddar eraill wedi ymwneud â bonedd Gororau Cymru, a chyfranogwyr y Groesgad Albigensaidd (1209-29). Mae wedi goruchwylio myfyrwyr doethurol ar amrywiaeth eang o bynciau sy’n ymwneud â Ffrainc a Phrydain rhwng yr 11eg ganrif a dechrau’r 14eg ganrif, gan gynnwys cyd-oruchwylio gyda phrifysgolion Ffrengig, a byddai’n croesawu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr ymchwil sy’n dymuno gweithio ar y cyfnod hwn.

Mae’n aelod ac yn gyn-gyfarwyddwr MEMO, Canolfan Ymchwil Canoloesol a Chyfnod Modern Cynnar Prifysgol Abertawe, ac yn Gymrawd y Gymdeithas Henebion (Llundain) a’r Gymdeithas Hanes Frenhinol.

Meysydd Arbenigedd

  • Ffrainc a Phrydain yn yr Oesoedd Canol canolig
  • Y Deyrnas Eingl-Normanaidd, Ymerodraeth brenhinoedd Angyw, a Ffrainc yn y cyfnod Capetaidd
  • Grym a Chofnodion y Bonedd
  • Cyffinwledydd Canoloesol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ewrop yn yr Oesoedd Canol canolig

Hanes Eingl-Normanaidd, Angyw a’r cyfnod Capetaidd

Y Groesgad Albigensaidd

Llawysgrifau Canoloesol