An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite

Dr Elain Price

Uwch-ddarlithydd, Media

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602807

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
401
Pedwerydd Llawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Elain Price yn ddarlithydd Astudiaethau Cyfryngau sy’n dysgu modiwlau ffilm a theledu, ac yn rhannu ei hamser yn gyfartal rhwng dysgu trwy’r Gymraeg a’r Saesneg. Mae hi’n Gyfarwyddwr Rhaglen Is-raddedig i’r ddarpariaeth Gymraeg yn yr Adran Cyfryngau a Chyfathrebu ac yn cyrychioli Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar Bwyllgor Strategaeth Iaith Gymraeg y Brifysgol.

Wedi derbyn BA mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2001 aeth ymlaen i astudio tuag at MPhil mewn hanes darlledu trwy archwilio hanes diddymu Television Wales and West (cwmni cyntaf rhwydwaith ITV yng Nghymru) a chreu Teledu Harlech yn 1967/8. Yn 2002 ymunodd â Sgrîn Cymru Wales fel Rheolwr Addysg, lle bu’n gyfrifol am drefnu Ffresh, Gwyl Cyfryngau Myfyrwyr Cymru rhwng 2003 a 2005. Bu’n gweithio hefyd i gwmni meddalwedd addysgol, B-DAG (a ail-enwyd yn Awen yn 2006), fel rheolwr marchnata a gwerthiant rhwng 2005 a 2006. Yn 2006 enillodd ysgoloriaeth gan y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg (yn hwyrach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol) i ymuno â Phrifysgol Abertawe i gwblhau doethuriaeth ar hanes blynyddoedd ffurfiannol Sianel Pedwar Cymru a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn yr Adran Cyfryngau a Chyfathrebu. Cwblhawyd y ddoethuriaeth yn 2010 ac ymunodd gyda’r Coleg Celfyddydau a Dyniaethau fel darlithydd llawn-amser ym maes y Cyfryngau yn 2011. Yn 2016 cyhoeddoedd y gyfrol Nid Sianel Gyffredin Mohoni! Hanes Sefydlu S4C sydd wedi ei addasu o’r ddoethuriaeth.

Ei phrif ddiddordebau ymchwil yw darlledu yng Nghymru, yn enwedig datblygiad a hanes S4C a’r sector ddarlledu annibynnol, datblygiad rhaglenni teledu cyfrwng Cymraeg i blant ac animeiddio yng Nghymru.

Meysydd Arbenigedd

  • Darlledu yng Nghymru
  • Hanes S4C
  • Rhaglenni teledu i blant yng Nghymru
  • Animeiddio yng Nghymru

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Dr Elain Price yn gymrawd o’r Academi Addysg Uwch.

Ymchwil