Trosolwg
Maes ymchwil Fritz-Gregor Herrmann yw Athroniaeth a Llenyddiaeth yr Henfyd, gyda ffocws ar Platon, Trasiedïau Groegaidd a Syniadaeth yr Henfyd. Ei ddiddordeb arbennig yw'r berthynas rhwng geiriau a syniadau, a'r ffyrdd y mae iaith yn dylanwadu ar y ffyrdd y mae syniadau'n datblygu - a vice versa. Mae ei fonograff Words and Ideas: The roots of Plato's philosophy (Abertawe 2007) a chyhoeddiadau cynnar eraill yn archwilio hyn ar lefel terminoleg athronyddol ac ontoleg Platon a'r Meddylwyr cyn Socrates. Mae ei waith mwy diweddar yn canolbwyntio ar drosiadau, alegori, myth ac ideoleg, a sut y defnyddir y nodweddion hynny o iaith a meddwl wrth strwythuro straeon. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar Republic Platon fel testun llenyddol sy'n ymateb i ddigwyddiadau hanesyddol a gwleidyddol llawn cymaint ag i farddoniaeth, gwyddoniaeth ac athroniaeth gynharach. Mae ei waith ar ddrama Groegaidd yn edrych ar y cwestiwn o benderfyniadau, gweithredu a chyfrifoldebau yn ogystal â goblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol ac ideolegol trasiedi a chomedi. Mae hefyd yn rhan o dîm o olygyddion yr Oxford Classical Text (OCT) newydd am Platon, cyf.2, i'w gyhoeddi maes o law. Mae ei addysgu yn cwmpasu Athroniaeth a Llenyddiaeth yn ogystal ag Iaith Groeg a Lladin. Mae meysydd ymchwil PhD blaenorol a phresennol y mae wedi'u goruchwylio yn cynnwys: Athroniaeth Platon; Trasiedïau Groegaidd; Syniadau Groegaidd yn yr Ymerodraeth Rufeinig.