A view of singleton campus including singleton park and the beach, with the sea stretching into the horizon.
Dr Gwennan Higham

Dr Gwennan Higham

Uwch-ddarlithydd, Cymraeg

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ymunodd Dr Gwennan Higham ag Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe ym mis Hydref 2016, yn dilyn doethuriaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ar ddysgu Cymraeg i fewnfudwyr; llunio llwybr at ddinasyddiaeth gynhwysol Gymreig. Mae ganddi brofiad o ddysgu Cymraeg i oedolion ac arbenigedd ar ddatblygu cyfleoedd dysgu Cymraeg i fewnfudwyr. Yn 2020, enillodd Fedal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol), a ddyfernir i gydnabod rhagoriaeth ymchwil gyrfa gynnar. Rhwng 2016 a 2019, bu’n rheoli prosiect a gyllidwyd gan yr UE oedd yn canolbwyntio ar ofal iechyd mewn lleoliadau iaith leiafrifol a’r angen am adnoddau priodol ar gyfer cyfathrebu a rhyngweithio gyda chleifion. Teitl ei llyfr diweddaraf yw 'Creu dinasyddiaeth i Gymru: mewnfudo rhyngwladol a'r Gymraeg' (GPC 2020).

Meysydd Arbenigedd

  • Cymraeg ail iaith
  • Ieithoedd lleiafrifol
  • Mewnfudo
  • Integreiddio
  • Addysg
  • Amlddiwylliannedd
  • Rhyngddiwylliannedd
  • Dinasyddiaeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Prif Wobrau

Yn 2020, enillodd Fedal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Dyniaethau a’r Celfyddydau Creadigol), a ddyfernir i gydnabod rhagoriaeth ymchwil gyrfa gynnar.