Trosolwg
Mae Dr Rich Fry yn Uwch-ddarlithydd mewn GIS (Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol) a Daearyddiaethau Iechyd, ac ef yw'r Tiwtor Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig ar gyfer yr Ysgol Feddygaeth. Graddiodd Rich gyda BSc (Anrh) mewn Daearyddiaeth Ffisegol o Abertawe cyn cwblhau MSc a PhD mewn GIS a Chyfrifiadura ym Mhrifysgol De Cymru ar ôl treulio peth amser ym myd diwydiant. Ar ôl cael swydd ôl-ddoethurol yn Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), dychwelodd i Abertawe, gan ymuno â'r Ysgol Feddygaeth fel Uwch-swyddog Ymchwil a oedd yn arbenigo mewn GIS a chysylltu data gofodol at ddibenion diogelu preifatrwydd. Ar hyn o bryd, mae Rich yn arwain ymchwil i ddaearyddiaeth ac iechyd ar gyfer safleoedd megis HDR UK yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, ADR Cymru a Chanolfan Iechyd y Boblogaeth.