Dr Becki Hafner

Darlithydd mewn Seicoleg, Psychology
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Darlithydd mewn Seicoleg yw Dr Rebecca Hafner. Mae ganddi arbenigedd mewn dewis a gwneud penderfyniadau, a chymhwysiad i newid o blaid yr amgylchedd ac ymddygiad iechyd. Mae gwaith ymchwil Rebecca wedi canolbwyntio ar agweddau damcaniaethol ar saernïo dewis, ac effeithiau cysylltiedig ar foddhad a lles y dewisydd. Mae gan Rebecca hefyd ddiddordeb arbennig ym mhenderfynyddion seicolegol ymddygiad yng nghyd-destunau cymhwysol mewn Seicoleg Amgylcheddol ac Iechyd. Mae Rebecca wedi gweithio'n helaeth ar ddatblygu dulliau ymyrraeth newydd a ddyluniwyd i dargedu materion allweddol o blaid yr amgylchedd ac iechyd, megis lleihau treuliant ynni a dŵr domestig, dewis trafnidiaeth werdd a mabwysiadu arferion ffordd iach o fyw.

Cwblhaodd Rebecca ei PhD ym Mhrifysgol Plymouth. Bu gwaith ymchwil ei PhD yn archwilio effaith ormodol dewis a'r prosesau seicolegol sy'n gallu tanseilio boddhad pan fyddwn ni y rhai hynny sy'n gwneud penderfyniadau'n wynebu nifer o ddewisiadau amgen o ran beth i'w ddewis, ac effeithiau cysylltiedig ar iechyd a lles y dewisydd.  Cyn dechrau ar ei PhD, cwblhaodd Rebecca BSc (Anrh) mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Plymouth ac MSc mewn Dulliau Ymchwil Seicolegol ym Mhrifysgol Plymouth.

Meysydd Arbenigedd

  • Seicoleg Amgylcheddol
  • Seicoleg Dewis
  • Newid ymddygiad
  • Seicoleg Iechyd
  • Dulliau Ymchwil
  • Lles
  • Diffyg arfer
  • Defnydd Ynni