Mae adeilad eiconig Tŷ Fulton ar Gampws Parc Singleton Prifysgol Abertawe'n mynd i gael ei ailddatblygu a'i adnewyddu yn sgîl cyhoeddi prosiect buddsoddiad mawr i adfer yr adeilad hanesyddol er mwyn creu canolfan gymdeithasol fywiog, gan adlewyrchu ei ddiben gwreiddiol pan gafodd ei agor ym 1961.
Bydd y prosiect uchelgeisiol yn cryfhau enw da'r Brifysgol am ragoriaeth o ran profiad y myfyrwyr drwy drawsnewid hen Dŷ'r Coleg yn ffocws croesawgar a hygyrch yng nghanol y campws ar gyfer ein cymuned. Bydd yn gartref i gyfleusterau i fyfyrwyr, mannau cymdeithasol dynodedig ac yn borth ar gyfer gwasanaethau allweddol i fyfyrwyr.
Bydd y prosiect yn adfywio'r adeilad Gradd II rhestredig a ddyluniwyd gan Syr Percy Thomas, gan ddathlu ei hanes a'i dreftadaeth, ac adfer nodweddion pensaernïol allweddol, wrth gyfoethogi ei gymeriad unigryw, drwy ychwanegu datblygiadau modern sy'n cyd-fynd â dyluniad canol y ganrif.
Mae cynaliadwyedd yn egwyddor allweddol ar gyfer y prosiect gwerth £34m, a fydd yn ôl-ffitio'r adeilad presennol, gan leihau gwastraff a lleihau carbon ac ynni ymgorfforedig yn sylweddol o'i gymharu ag ymagwedd dymchwel ac adeiladu adeilad newydd.
Nod y prosiect yw cyflawni gradd Aur Fit Out SKA a bydd yn defnyddio deunyddiau moesegol, cyfrifol a lleol, gan gynnwys elfennau bioffilig a gwella cysylltedd â mannau awyr agored, wrth foderneiddio gwasanaethau'r adeilad a datrys materion cynnal a chadw hirdymor.
*Rhai dangosol yw'r dyddiadau a'r lluniau a gallant newid.*Rhai dangosol yw'r dyddiadau a'r lluniau a gallant newid.wy broses o ymgynghori helaeth, mae'r penseiri Austin-Smith:Lord wedi creu dyluniadau cysyniad a bydd myfyrwyr a staff yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud er mwyn helpu i lywio ailddatblygiad yr adeilad eiconig hwn.
Meddai Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Prifysgol Abertawe, Niamh Lamond: "Mae'n bleser gennyf gyhoeddi'r prosiect hwn sy'n rhan o raglen fuddsoddi hirdymor ar Gampws Parc Singleton, sy'n cynnwys gweithgarwch cynllunio , moderneiddio adeiladau ymhellach, buddsoddi mewn isadeileddau pwysig, gwella'r amgylchedd awyr agored, a datblygu ymhellach i gefnogi ymrwymiadau dim carbon y Brifysgol".
Disgwylir i'r rhaglen adnewyddu fesul cam ddechrau yn gynnar yn 2025, gyda dyddiad cwblhau arfaethedig yn hydref 2026.
*Rhai dangosol yw'r dyddiadau a'r lluniau a gallant newid.