Y llyfrau sydd ar y rhestr fer

Mae'r rhestr fer ar gyfer y wobr lenyddol fwyaf ac uchaf ei bri yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei datgelu. Mae’n cynnwys chwe llais eithriadol, datblygol sy'n defnyddio dyfeisgarwch ffurfiol wrth ysgrifennu er mwyn archwilio themâu tragwyddol galar, hunaniaeth a theulu.

Mae'r rhestr ryngwladol eleni’n cynnwys pedair nofel, un casgliad o straeon byrion ac un casgliad o farddoniaeth – gyda phum cyfrol gan gyhoeddwyr annibynnol. Dyma’r rhestr: 

  • A Spell of Good Things gan Ayòbámi Adébáyò (Canongate Books) – nofel (Nigeria)
  • Small Worlds gan Caleb Azumah Nelson (Viking, Penguin Random House UK) – nofel (y DU/Ghana)
  • The Glutton gan K. Blakemore (Granta) – nofel (Lloegr, y DU)
  • Bright Fear gan Mary Jean Chan (Faber & Faber) – casgliad o farddoniaeth (Hong Kong)
  • Local Fires gan Joshua Jones (Parthian Books) – casgliad o straeon byrion (Cymru, y DU)
  • Biography of X gan Catherine Lacey (Granta) – nofel (yr Unol Daleithiau)

Mae'r wobr fyd-eang hon, sy'n werth £20,000, yn cydnabod llenorion eithriadol o dalentog 39 oed neu'n iau, gan ddathlu byd rhyngwladol ffuglen o bob math, gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a dramâu. Mae'r wobr wedi'i henwi ar ôl Dylan Thomas, llenor a anwyd yn Abertawe, ac mae'n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Mae'n dwyn ei enw er mwyn cefnogi llenorion presennol, meithrin doniau’r dyfodol a dathlu rhagoriaeth lenyddol ryngwladol.

Meddai Namita Gokhale, Cadeirydd y Beirniaid: “Mae gan Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe rôl bwysig wrth gydnabod, cefnogi a meithrin llenorion ifanc ar draws amrywiaeth eang o leoliadau a genres. Mae'r rhestr fer ar gyfer 2024 yn cynnwys awduron o'r Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig, Hong Kong, Nigeria a Ghana, ac mae ymgolli wrth ddarllen drwy'r sbectrwm creadigol hwn o leisiau wedi rhoi pleser mawr i mi.”

Yr unig lyfr gan awdur newydd ar y rhestr fer eleni yw Joshua Jones, newydd-ddyfodiad hynod dalentog o Gymru sydd wedi llunio casgliad clodfawr o straeon byrion, Local Fires – cyfres nodedig o straeon amlweddog a ysbrydolwyd gan bobl go iawn a digwyddiadau go iawn yn ei dref enedigol, sef Llanelli, de Cymru.

Yr unig fardd sy'n cystadlu eleni yw Mary Jean Chan – a gyrhaeddodd restr fer y wobr yn flaenorol am eu llyfr cyntaf, Fleche, yn 2020. Nawr, mae'n cael eu cydnabod am Bright Fear, casgliad eofn sy'n archwilio themâu hunaniaeth, amlieithrwydd ac etifeddiaeth ôl-drefedigaethol.

Mae tri o'r pedwar nofelydd hefyd wedi cael eu henwebu am Wobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe am yr eildro: mae Caleb Azumah Nelson, awdur Prydeinig-Ghanaidd, yn cael ei gydnabod am ei ail nofel, Small Worlds, sy'n mynd ag ef o dde Llundain i Ghana ac yn ôl dros dri haf i adrodd stori bersonol am dad a mab sy'n archwilio'r bydoedd rydym yn eu hadeiladu i ni ein hunain; mae Ayòbámi Adébáyò, nofelydd o Nigeria, wedi cyrraedd y rhestr fer am ei stori drawiadol o Nigeria yn yr oes fodern, A Spell of Good Things, lle mae dau deulu wedi'u dal gan ddyfroedd geirwon cyfoeth, pŵer, obsesiwn rhamantus a llygredigaeth wleidyddol; ac mae Catherine Lacey, awdur o'r Unol Daleithiau, yn cael ei dathlu am Biography of X, nofel epig ac uchelgeisiol egnïol sy'n pontio genres wrth gofnodi bywyd, oes a chyfrinachau artist drwg-enwog.

Gan gwblhau'r rhestr fer, mae A.K. Blakemore, nofelydd o Brydain, yn cael ei chydnabod am The Glutton, nofel fywiog o dywyll sy'n seiliedig ar stori wir gwerinwr sy'n atyniad mewn sioe pethau hynod yn Ffrainc ar adeg y chwyldro. 

Dewiswyd rhestr fer 2024 gan banel beirniadu wedi'i gadeirio gan Namita Gokhale, llenor a chyd-gyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur; Jon Gower, awdur a darlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe; Seán Hewitt, enillydd Gwobr Rooney am Lenyddiaeth Wyddelig yn 2022 ac Athro Cynorthwyol yng Ngholeg y Drindod Dulyn; Julia Wheeler, cyn-ohebydd y BBC am y Gwlff ac awdur Telling Tales: An Oral History of Dubai; a Tice Cin, artist rhyngddisgyblaethol ac awdur Keeping the House.

Rhannu'r stori