Dau ddyn yn sefyll o boptu llun mawr Eifftaidd y tu mewn i orie

Mae paentiad prin gan Howard Carter, yr archaeolegydd uchel ei fri a ddarganfu feddrod Tutankhamun, bellach yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe.

Ar fenthyg gan The Egypt Exploration Society (EES), mae'r paentiad dyfrlliw'n cynnwys cerfwedd o Gapel Thutmose I yn nheml angladdol y Pharo Hatshepsut yn Deir el-Bahari ger Luxor. 

Cafodd ei baentio ym 1894 pan oedd Carter yn 19 oed yn unig ac yn gweithio yn y deml, sy'n dyddio yn ôl i'r 15fed ganrif cyn yr oes gyffredin (BCE), i’r EEF (Cronfa Archwilio'r Aifft), fel y'i hadwaenid bryd hynny.

Meddai Dr Ken Griffin, Curadur Cronfa'r Ganolfan Eifftaidd: “Yn ddiau, mae Howard Carter yn un o'r enwau enwocaf sy'n gysylltiedig ag archwilio'r Hen Aifft, felly mae hyn yn hwb mawr i'r amgueddfa.

“Nid yw'r paentiad yn cael ei arddangos yn aml y tu hwnt i bencadlys yr EES yn Llundain a dyma'r tro cyntaf iddo gael ei anfon ar fenthyg i Gymru.

“Rydyn ni'n freintiedig ac yn hynod falch bod y Gymdeithas wedi cydnabod ein brwdfrydedd a'n harbenigedd yn y maes hwn ac rydyn ni bellach yn edrych ymlaen at groesawu ymchwilwyr i'w weld yn ei holl ogoniant.”

Cafodd y paentiad dyfrlliw ei ddadorchuddio yn ei gartref dros dro newydd yn oriel Tŷ Marwolaeth yr amgueddfa mewn digwyddiad arbennig a oedd hefyd yn cynnwys cyflwyniad gan Dr Carl Graves, Cyfarwyddwr yr EES.

Gan fesur 1.3m x 1.2m, y paentiad dyfrlliw yw'r gwaith mwyaf sydd wedi goroesi gan Carter, a ddaeth yn enwog yn fyd-eang ym 1922 pan ddarganfu feddrod didoriad Tutankhamum, y pharo ifanc, yn Nyffryn y Brenhinoedd.

Meddai Dr Graves: “Rydyn ni wrth ein boddau mai'r Ganolfan Eifftaidd yw'r cyrchfan cyntaf i gampwaith ein harchif. Fel partneriaid a gynhaliodd Gynhadledd Eifftoleg yr EES yn 2022, mae gan y Ganolfan Eifftaidd a'r EES hanes hir o gydweithio, gan fod llawer o'r arteffactau yn yr amgueddfa wedi cael eu rhoi drwy waith y Gymdeithas ers 1882. 

“Mae'r benthyciad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i weithio gyda'n gilydd a rhannu campweithiau o'n casgliadau â phartneriaid yn y DU.”

Bydd y paentiad yn y Ganolfan Eifftaidd tan iddo symud i leoliadau eraill yn Lloegr fel rhan o gynlluniau ailddatblygu ehangach yr EES yn Llundain.

Dyma'r arddangosfa uchel ei bri ddiweddaraf yn y Ganolfan Eifftaidd arobryn, a ddathlodd ei phen-blwydd yn 25 oed y llynedd.

Ar hyn o bryd, mae'r unig amgueddfa Eifftaidd yng Nghymru’n cynnal casgliad o fwy nag 800 o eitemau prin o amgueddfeydd Harrogate, sy'n cael eu rhestru mewn catalog a'u hastudio gan y tîm o arbenigwyr yn Abertawe.

Dim ond llond llaw o brifysgolion yn y DU sy'n cynnig Eifftoleg, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, ac mae casgliad yr amgueddfa'n chwarae rôl annatod yn y gweithgarwch dysgu ac addysgu.

 

Rhannu'r stori