Collage o luniau sy'n cynnwys (o'r chwith i'r dde) yr Athro Katrina Pritchard, Dr Ryan Sweet a Dr Helen Williams.

O'r chwith i'r dde: Yr Athro Katrina Pritchard, Dr Ryan Sweet a Dr Helen Williams.

Bydd tri academydd o Brifysgol Abertawe yn cymryd rhan yn y ddwy sgwrs ddiweddaraf mewn cyfres arbennig sydd â nod o gyflwyno ymchwil i'r gymuned.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiadau yng Nghanolfan Gelfyddydau Wyeside yn Llanfair-ym-Muallt, a fydd yn cynnwys yr Athro Katrina Pritchard, Dr Helen Williams a Dr Ryan Sweet, bellach ar gael drwy wefan y Ganolfan.

Cynhelir y sgwrs gyntaf, sef Genders and the Community, ddydd Mercher 15 Mai. Lansiodd yr Athro Pritchard a Dr Williams o'r Ysgol Reolaeth Breaking Binaries Research yn 2022 i archwilio hunaniaethau cymhleth ac amrywiol, a bydd y digwyddiad hwn yn ymchwilio i brofiadau pobl o syndrom y ffugiwr a sut maent yn teimlo dan bwysau i gydymffurfio ag ystrydebau rhywedd.

Maent yn datgan nad yw'r ymchwil bresennol wedi ystyried cymhlethdod hunaniaethau amrywiol yn llawn a bod cysylltiad rhyngddynt yn aml wrth i unigolion arddel hunaniaethau sy'n croesi ffiniau traddodiadol ac yn mynd y tu hwnt iddynt. Mae eu hymchwil yn gweithio gydag unigolion trawsryweddol ac anneuaidd a'r rhai hynny sy'n uniaethu â chymunedau LGBTQIA+ mewn ffyrdd amlweddog sydd yn aml yn newidiol, ac yn cefnogi'r unigolion hyn.

Yn Making ‘Legless in London’: From 19th century Disability Culture to Modern Tabletop Gaming, mae Dr Sweet yn cyflwyno ei ymchwil i anabledd yn niwylliant y 19eg ganrif ac yn olrhain sut mae hyn wedi ei ysgogi i ddylunio gêm fwrdd newydd ar y cyd.

Bydd Dr Sweet, uwch-ddarlithydd yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn annerch cynulleidfa ddydd Mercher 7 Awst i esbonio'r ffordd y dechreuodd tueddiadau i ffafrio normalrwydd corfforol deyrnasu yn y 19fed ganrif, a'r cysylltiad rhwng hyn a chynnydd y farchnad newydd am aelodau prosthetig.  Bydd hefyd yn disgrifio pwysigrwydd ei ganfyddiadau a pham penderfynodd greu gêm fwrdd am y pwnc hwn.

Bydd y ddwy sgwrs yn dechrau am 2pm, a gallwch archebu eich tocynnau i'r digwyddiadau wyneb yn wyneb hyn drwy dudalen digwyddiadau Canolfan Wyeside.

Bydd y sgyrsiau'n dilyn digwyddiadau llwyddiannus blaenorol yn y ganolfan gelfyddydau sydd wedi cynnwys Dr Matt Wall, yr Athro Tom Crick, yr Athro Louisa Huxtable-Thomas, yr Athro Kirsti Bohata a Dr Annie Tubadji.

Rhannu'r stori