Logo: Bionema a Gwobr Mentergarwch y Brenin

Mae Gwobrau Mentergarwch y Brenin, y gydnabyddiaeth fwyaf i fusnesau yn y DU, wedi cyhoeddi bod Bionema Group Ltd, cwmni deillio o Brifysgol Abertawe, wedi ennill y wobr uchel ei bri yn y categori Arloesedd.

Mae'r anrhydedd yn dathlu NemaTrident, cynnyrch arloesol Bionema sy'n rheoli plâu cnydau mewn modd biolegol ecogyfeillgar chwyldroadol. Mae Bionema, sy'n flaenllaw ym maes technoleg bioreolaeth, yn ymrwymedig i leihau'r ddibyniaeth ar blaladdwyr a gwrteithiau synthetig wrth gynhyrchu bwyd. 

Cafodd Gwobrau Mentergarwch y Brenin, sef Gwobrau Mentergarwch y Frenhines gynt, eu hailenwi y llynedd i adlewyrchu awydd Ei Fawrhydi'r Brenin i barhau ag etifeddiaeth Ei Mawrhydi'r Frenhines Elizabeth II drwy gydnabod busnesau neilltuol yn y DU.

Y rhaglen wobrwyo, sydd bellach yn ei 58ain flwyddyn, yw'r wobr uchaf ei bri i fusnesau yn y wlad, ac mae busnesau llwyddiannus yn gallu defnyddio arwyddlun Gwobrau'r Brenin am y pum mlynedd nesaf.

Dechreuodd Bionema Group Ltd fasnachu yn 2013 ac mae'n gweithio ym maes biotechnoleg, gan greu ffyrdd o reoli plâu at ddibenion garddwriaeth, coedwigaeth a diwydiannau eraill.

Mae ei arloesedd yn cystadlu â phlaladdwyr cemegol, gan ddefnyddio nematodau microsgopig i ladd pryfed penodol. Ar hyn o bryd, mae ffermwyr yn dibynnu'n drwm ar blaladdwyr cemegol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o ymwrthedd cynyddol i blaladdwyr a phryderon difrifol am yr amgylchedd a diogelwch pobl wedi arwain at reoliadau mwy llym sy'n gwahardd llawer o blaladdwyr rhag cael eu defnyddio.

Mae cynhyrchion sy'n seiliedig ar nematodau wedi bod ar gael ers y 1980au, ond gwnaethant fethu’n gyson â diwallu anghenion tyfwyr. Yn seiliedig ar nematodau, mae NemaTrident yn gynnyrch diwenwyn dan batent â thair cydran sy’n rheoli plâu pryfed. Mae technoleg amgáu unigryw, ar y cyd â gwlychwr sy'n treiddio pridd, yn gwasgaru nematodau'n ddyfnach i'r pridd, gan gynyddu'r gyfradd gyswllt â phlâu larfaol a dargedir a gwella effeithiolrwydd. Mae rhaglenni addysg a chymorth helaeth i gwsmeriaid yn sicrhau y rhoddir y cynnyrch ar waith yn effeithiol.

Meddai Dr Minshad Ansari, Sefydlydd a Phrif Swyddog Gweinyddol Bionema:

“Rwy'n falch bod Bionema wedi ennill Gwobr Mentergarwch y Brenin, yn enwedig yn y categori Arloesedd. Mae darganfod microbau naturiol a datblygu a chreu cynhyrchion uwch heb blaladdwyr wrth wraidd athroniaeth fusnes Bionema.

Gyda mwy o ddiddordeb mewn creu a chynnal economi gylchol a chan roi ystyriaeth briodol i Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, gwnes i sefydlu Bionema yn 2012, ar ôl gweithio am wyth mlynedd ym Mhrifysgol Abertawe, yn unswydd i gynllunio a datblygu bioleg newydd, gan bwysleisio'r defnydd o ficrobau naturiol.

Daeth technoleg NemaTrident® a warchodir gan gyfraith eiddo deallusol i feddiant Syngenta yn 2021, sef y cynnyrch mwy diogel, glân ac ecogyfeillgar. Rydyn ni wedi bod yn ffodus i dderbyn cynifer o wobrau a chydnabyddiaeth yn y diwydiant, ac mae pob un wedi canu ein clodydd.

Eto i gyd, mae’n destun pleser mawr i mi dderbyn yr anrhydedd busnes uchaf hwn, yn enwedig wrth gydnabod ein harloesedd. Bydd hyn yn helpu i atgyfnerthu ein platfform a chreu rhagor o ddiddordeb yn ein technoleg darfol.

Nod y microb hwn yw cyfrannu at leihau plaladdwyr a gwrteithiau yn ein pridd, ein haer a'n hamgylchedd, yn ogystal ag ymdrin â phroblemau cymdeithasol presennol, gan ddarparu atebion effeithiol yn y pen draw er lles cenedlaethau'r dyfodol.” 

Meddai'r Athro Helen Griffiths, Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil a Mentergarwch Prifysgol Abertawe, a Chyfarwyddwr Swansea Innovations Limited:

“Llongyfarchiadau mawr i dîm Bionema ar yr anrhydedd haeddiannol iawn hwn. Ac yntau'n un o fusnesau deillio Prifysgol Abertawe sydd â mwy na 30 mlynedd o brofiad, mae Bionema wedi gweithio'n ddiflino ar ddatblygu technolegau bioblaladdwyr sy'n seiliedig ar ymchwil, gan greu a lansio portffolio o ddewisiadau organig masnachol ddichonol amgen i blaladdwyr cemegol niweidiol.

Mae'n hanfodol cefnogi mentergarwch ac arloesedd er mwyn sicrhau y gall ein hymchwil o'r radd flaenaf yn labordai'r Brifysgol arwain at ddatblygu a lansio cynhyrchion a gwasanaethau sy'n cael effaith neilltuol.

Mae hi wedi bod yn gyffrous bod yn rhan o daith gychwynnol tîm Bionema, ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda'r busnes wrth iddo fynd o nerth i nerth.”

Bionema

Dyfodol Cynaliadwy, Ynni a'r Amgylchedd - ymchwil Prifysgol Abertawe

 

Rhannu'r stori