Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00279
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
12 Mai 2024
Dyddiad Cyfweliad
21 Mai 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd y prosiect ymchwil hwn, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Lerpwl a Phrifysgol Caerwysg, yn defnyddio systemau model pwerus ar gyfer profi a mesur rhyngweithiadau metabolaidd rhwng firws enfawr a gwesteiwr ac yn rhoi cipolwg unigryw ar agweddau moleciwlaidd ar y firysau enfawr, cyfran o ecosystemau'r Ddaear nad yw wedi cael ei hastudio'n drylwyr. Bydd deiliad y swydd yn brofiadol ym maes cemeg fiolegol a microbioleg foleciwlaidd.  Ceir firysau enfawr mewn systemau dŵr croyw, daearol, a systemau morol bas a dwfn. Mae tystiolaeth wyddonol wedi dangos bod firysau enfawr yn gallu "cylchredeg y blaned", gan bwysleisio ein hangen am well dealltwriaeth o'r firysau hyn a sut maen nhw'n effeithio ar ecosystemau'r Ddaear. Er enghraifft, mae firysau enfawr yn effeithio ar ffitrwydd algâu, syanobacteria a phlancton sy'n cynhyrchu mwy na 70% o'r ocsigen rydyn ni'n ei anadlu ac yn amsugno 50% o'r carbon deuocsid a'r methan o'r atmosffer (prif gyfranwyr at newid yn yr hinsawdd). Ni ddeellir sut mae firysau enfawr yn defnyddio eu gwesteiwyr, ac efallai nad yw hyn yn syndod gan fod y rhain yn feirysau cymharol newydd eu canfod (a ddarganfuwyd yn 2003 yn unig).

Mae canfod y genynnau metabolaidd sylfaenol firol yn unigryw mewn bioleg ac mae'n mynd yn groes i'n safbwynt traddodiadol o fioleg firws. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn canfod sut mae firysau enfawr yn parasitio ac yn ailraglennu metaboledd y gell letyol a sut mae eu hensymau yn cyfrannu at fioleg firol gan gynnwys systemau metabolaidd egnïol. Bydd y prosiect hwn yn trawsnewid ein dealltwriaeth o firysau mewn bioleg a'u hesblygiad yn llwyr ac yn ehangu gwybodaeth bellach am brosesau ecosystem y Ddaear, e.e. ailgylchu maetholion a hyrwyddo bioamrywiaeth rhywogaethau. Bydd hyn yn effeithio ar ein dealltwriaeth o ddeinameg systemau a phrosesau ecolegol ehangach y mae firysau o'r fath yn bodoli ynddynt – e.e. ffotosynthesis a chynhyrchu ocsigen – y mae bywyd ar ein planed yn dibynnu arnynt.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth foddhaol o wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho FMHLS Candidate Brochure (CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr