Beth mae ein swyddog chwaraeon yn ei wneud?

Cafwyd dechreuad gwych i'r tymor cyntaf wrth i'r Swyddog Amser Llawn ar gyfer Chwaraeon, Megan Chagger, weithio ar ystod o brosiectau profiad myfyrwyr. Mae Megan yn goruchwylio gweithgareddau a gweithrediad beunyddiol pob un o'r 56 clwb chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, gan fod yn bwynt cyswllt allweddol rhwng Undeb y Myfyrwyr a Chwaraeon Abertawe, ac mae hi'n cynorthwyo wrth gydweithio ar brosiectau chwaraeon, er enghraifft, Varsity Cymru sydd ar ddod.

Drwy gydol ei hamser yn y rôl, mae Megan yn gobeithio sicrhau bod cyflawniadau myfyrwyr chwaraeon yn cael eu hamlygu drwy'r sianeli cyfryngau cymdeithasol, annog cyfranogiad myfyrwyr ar lefelau datblygu ac elît ar draws pob camp, a chynyddu cyllid ar gyfer pob tîm.

Mae'r Swyddog Chwaraeon eleni yn frwdfrydig iawn am sut gall cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol gefnogi myfyrwyr ar eu taith yn y brifysgol. Gydag uchelgais i sicrhau ein bod yn darparu profiad chwaraeon o'r radd flaenaf yn Abertawe, mae Meg wedi achub ar y blaen, yn trefnu diwrnod llwyddiannus i ferched i godi ymwybyddiaeth am ganser y fron, yn helpu i sicrhau cyllid caledi 'Costau Byw' i gefnogi myfyrwyr gyda'u cyllid mewn chwaraeon, yn creu digwyddiad 'Dewch i Ddawnsio Abertawe' ar gyfer mis Tashwedd, ac yn trefnu sesiwn tynnu lluniau'r Capteiniaid Varsity yn barod ar gyfer lansiad y digwyddiad!

Mae wir wedi bod yn dymor prysur i Meg.  Mae'r effaith y mae hi wedi'i chael ar ein clybiau chwaraeon wedi bod yn anhygoel, gan gynnwys cynyddu ymwybyddiaeth o chwaraeon clwb ymhlith ein myfyrwyr presennol ac annog llu o weithgareddau codi arian elusennol ar draws ein clybiau.

Gyda thymor prysur o'n blaenau, fe wnaethon ni ddal i fyny gyda Meg i weld pa brosiectau newydd cyffrous mae hi'n gweithio arnyn nhw dros y misoedd nesaf.

Bydd Varsity Cymru yn dychwelyd i Abertawe ddydd Mercher 24 Ebrill, sef digwyddiad lle bydd ein timau'n mynd benben â Phrifysgol Caerdydd ac yn cystadlu am gyfle i ennill tarian chwenychedig Varsity Cymru.

Bydd Meg yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gyflwyno Varsity, gan helpu i sicrhau bod y digwyddiad chwaraeon pwysig hwn i Abertawe yn cael ei gynnal yn ddidrafferth ac yn darparu'r profiad gorau i'n myfyrwyr. Ac eleni, mae hi'n bwriadu cyflwyno Varsity i'w gofio i chi!

Mae Meg yn gweithio'n galed i ddatblygu nwyddau Varsity newydd i'r myfyrwyr eleni, ac rydym yn siŵr y bydd ein Byddin Werdd a Gwyn yn falch o'u gwisgo wrth iddynt gefnogi ein timau ym Mharc Chwaraeon Bae Abertawe a stadiwm Swansea.com. Mae Meg yn sicr y bydd yr anrhegion newydd hyn yn helpu i gyffroi ein cefnogwyr a sicrhau eu bod yn cael un o'r diwrnodau gorau yn eu profiad yn y brifysgol.

Mae Meg hefyd yn gweithio gyda Thîm Chwaraeon Abertawe i dreialu chwaraeon newydd yn y digwyddiad eleni. Uchelgais Meg yw y bydd pob clwb yn cymryd rhan yn ein gŵyl chwaraeon yn y pen draw, felly cadwch lygad am yr ychwanegiadau newydd a chadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau rheolaidd yn y cyfnod cyn y digwyddiad bythgofiadwy hwn yn eich atgofion o Abertawe!

Rydym wrth ein boddau'n gweithio gyda Meg eleni ac yn edrych ymlaen at ei helpu i wireddu ei huchelgeisiau i ddatblygu'r profiad chwaraeon yn Abertawe!

Rhagor o wybodaeth am Varsity yma.

Rhagor o wybodaeth am rôl y Swyddog Chwaraeon yma.

Rhannu'r stori