Boggemann yn cynrychioli'r Iseldiroedd

Llongyfarchiadau enfawr i'r ysgolhaig rygbi, Tom Boggemann, a fydd yn cynrychioli'r Iseldiroedd ym Mhencampwriaeth Dan 20 Oed Ewrop.

Bydd y myfyriwr seicoleg sydd yn ei flwyddyn gyntaf yn chwarae yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ddydd Sul 12 Tachwedd, yn y rownd gogynderfynol ym Mhrag.

Mae'r gystadleuaeth, a elwir yn Bencampwriaeth Rygbi Dan 20 Ewrop, yn ddigwyddiad blynyddol rygbi'r undeb ar gyfer timau cenedlaethol dan 20 oed a gynhelir yn Stadiwm Marketa ym Mhrag rhwng 12 ac 19 Tachwedd.  Y twrnamaint hwn yw'r unig ddigwyddiad cymhwyso yn Ewrop ar gyfer Tlws Dan 20 Rygbi'r Byd 2024, a drefnir gan Rygbi'r Byd ac mae'n cynnwys 8 gwlad wahanol yn cystadlu ar gyfer teitl Pencampwriaeth Ewrop.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth  yma.

Gallwch glywed yr hyn sydd gan Tom i'w ddweud am chwarae rygbi ym Mhrifysgol Abertawe  yma.

Rhannu'r stori