Crynodeb Bod yn Actif yn Semester 1

Mae hi wedi bod yn dymor prysur i'n rhaglen Bod yn Actif, gydag wynebau rheolaidd a newydd yn ymuno â'r sesiynau.   O'r sesiynau pêl-foli a phêl-droed rheolaidd, i syrffio a heicio, roedd rhywbeth i bawb!

Cafwyd 1,569 o gofrestriadau newydd y tymor diwethaf, gan gynnal bron 300 awr o weithgareddau Bod yn Actif! Pêl-droed, badminton , a phêl-foli oedd y sesiynau mwyaf poblogaidd  yn 2023,  yna sesiwn newydd a gyflwynwyd eleni; ioga,  lle bu staff a myfyrwyr newydd a rheolaidd yn ymuno â ni bob wythnos, gan fwynhau egwyl hamddenol.    

Gwnaeth y niferoedd gynyddu'n sylweddol eleni ar gyfer sesiynau ar Gampws y Bae o'i gymharu â'r llynedd, gyda 96 sesiwn lwyddiannus yn cael eu cyflwyno a 1,427 o fyfyrwyr yn dod i'r sesiynau hyn. Wrth i'r rhaglen dyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae'n wych gweld cynifer o staff a myfyrwyr yn dymuno cadw'n heini mewn amgylchedd llawn hwyl a chymdeithasol. 

Drwy gyflwyno ioga  i'r rhaglen, yn ogystal â syrffio a bowldro , rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau llawn hwyl a hamddenol i'n prifysgol, gan annog ffordd o fyw iach yn y gymuned. 

Mae 2024 eisoes yn edrych fel blwyddyn gyffrous, wrth i ni gyflwyno gŵyl rownderi y tymor hwn i'r rhaglen, yn ogystal â sesiynau pêl-droed Ramadan, gweithgareddau Awyr Agored wythnosol a gwersyll gweithgareddau 2 ddiwrnod dros y Pasg a gynhelir ym Mharc hyfryd Margam. Gyda Mis Cerdded Cenedlaethol ar y gorwel, rydym yn edrych ymlaen at gynnig teithiau cerdded godidog i chi lle byddwch yn cael y cyfle i archwilio harddwch Penrhyn Gŵyr sydd ar ein stepen ddrws, felly cadwch lygad am y cyfleoedd cyffrous hyn.   

Os nad ydych yn gwybod ble i ddechrau ar eich taith iechyd a ffitrwydd, beth am ddechrau gyda'r sesiynau Bod yn Actif hyn lle gallwch fwynhau eich taith ffitrwydd mewn amgylchedd hamddenol! Cofiwch, nid oes angen profiad arnoch i ddod, mae'r sesiynau'n agored i BOB gallu.

Cofiwch, mae ein sesiynau amserlen craidd yn RHAD AC AM DDIM! 

Gallwch gofrestru ar gyfer Bod yn Actif  yma! Peidiwch ag anghofio edrych ar y sesiynau dan do ac awyr agored ar ein hamserlen Bod yn Actif.  

Dewch â ffrind neu gwrdd â ffrindiau newydd,     a dewch i ymuno â theulu Bod yn Actif y tymor hwn! 

Rhannu'r stori