Noson o ddathlu yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe 2023

Wrth i flwyddyn lwyddiannus o chwaraeon myfyrwyr ddirwyn i ben, cynhaliodd Chwaraeon Abertawe Wobrau Chwaraeon 2023 yn Neuadd Brangwyn yn Abertawe.

Mae cinio'r Gwobrau Chwaraeon yn gyfle perffaith i roi'r gydnabyddiaeth haeddiannol i'r myfyrwyr a'r staff sydd wedi cyfrannu at chwaraeon myfyrwyr a'u hwyluso drwy'r flwyddyn.

Mae ein myfyrwyr wedi rhagori'n gyffredinol eleni, gyda nifer o dimau'n ennill dyrchafiad, gan gynnwys ail dîm rygbi'r dynion, ail dîm pêl-fasged y dynion, ail dîm pêl-droed y dynion, tîm tennis y menywod, tîm ffrisbi eithafol cyntaf y dynion a thîm pêl foli cyntaf y dynion. O ran cystadlaethau, gorffennodd ein timau nofio ac eirafyrddio yn y pumed safle yn genedlaethol, a chynrychiolodd ychydig o fyfyrwyr Chwaraeon Abertawe eu campau ar lefel ryngwladol. O ganlyniad i hyn, mae Prifysgol Abertawe yn yr 22ain safle ymysg 150 o brifysgolion yn nhabl BUCS (British University & Colleges Sport) ar hyn o bryd, yn uwch na Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, Lerpwl a Glasgow.

Mae'r digwyddiad mawr hwn, sydd â'r nod o ddathlu cyflawniadau sylweddol ein myfyrwyr ym maes chwaraeon, wedi'i drefnu gan Dîm Chwaraeon Abertawe, ar y cyd ag Undeb y Myfyrwyr. Daeth 400 o fyfyrwyr i'r dathliad blynyddol, gan nodi diwedd tymor chwaraeon y Brifysgol.

Agorwyd y digwyddiad gan yr Is-ganghellor, yr Athro Paul Boyle, ac fe'i cyflwynwyd gan Joe Byrnes, sylwebydd rygbi a ddiddanodd y gynulleidfa drwy'r noson. Cyflwynwyd y gwobrau gan aelodau o'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth, Undeb y Myfyrwyr a thîm Chwaraeon Abertawe, a chyhoeddwyd yr enillwyr ar dudalen Facebook Chwaraeon Abertawe.

Roedd cyfanswm o 11 o enillwyr, gan gynnwys:

  • Clwb Elusennol y Flwyddyn – Pêl-droed y Menywod
  • Clwb sydd wedi Gwella Fwyaf - Pêl Fas a Phêl Feddal
  • Cyfryngau Cymdeithasol y Flwyddyn – Angelo Robles, Tennis Bwrdd
  • Tîm Varsity'r Flwyddyn – Polo Canŵ'r Menywod
  • Chwaraewr y Flwyddyn – Lewis Fraser, Nofio
  • Chwaraewraig y Flwyddyn – Tennessee Randall, Cicfocsio
  • Tîm y Flwyddyn – Tîm Cyntaf Eirafyrddio
  • Pwyllgorwr y Flwyddyn – Megan Chagger, Codi Hwyl
  • Hyfforddwr y Flwyddyn – Emily Parkinson, Ffrisbi Eithafol
  • Clwb y Flwyddyn – Codi Hwyl
  • Gwirfoddolwyr y Flwyddyn – Tîm Gweithredol Chwaraeon Abertawe

Yn ystod y cinio gwobrwyo, cafodd y gwesteion gyfle i fwyta pryd o fwyd tri chwrs blasus a mwynhau straeon doniol am ein myfyrwyr (a'r staff) yn y blwch gonestrwydd, cyn mynd i Abertawe i ddawnsio drwy'r nos!

Rhannu'r stori