Dewch i adnabod eich Tîm Inspire ysbrydoledig

Mae ein Tîm Chwaraeon Abertawe yn dîm ymroddgar ac angerddol sy’n ymrwymo i wella bywydau trwy chwaraeon ac ymarfer corff. Mae piler ‘Inspire’ Chwaraeon Abertawe'n goruchwylio’r holl chwaraeon perfformiad uchel ac ysgolheigion chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe,gan weithio’n agos gydag unigolion i sicrhau eu bod yn gwireddu eu breuddwydion chwaraeon ochr yn ochr â’u hastudiaethau. Drwy ddarparu rhaglen gyrfa ddeuol, mae’r tîm Inspire yn darparu cefnogaeth berfformiad ddynodedig ac adnoddau ar gyfer athletwyr talentog ym myd chwaraeon.

Cwrdd ag Imelda Phillips – ein Rheolwr Perfformiad Chwaraeon.

Mae Imelda’n rheoli ein rhaglenni chwaraeon perfformiad uchel, gan arwain tîm o reolwyr chwaraeon perfformiad talentog, a swyddogion cefnogi myfyrwyr profiadol sy’n angerddol wrth gefnogi ein hathletwyr i llwyddo yn eu gyrfaoedd deuol, sef yn eu bywyd academaidd ac ym myd chwaraeon. Mae Imelda’n canolbwyntio ar ddarparu rhaglen chwaraeon perfformiad uchel ar gyfer y Brifysgol, wrth barhau i weithio gyda’r tîm i ddarparu cyfle safon aur i ddarpar fyfyrwyr. Mae Imelda’n gwneud hyn trwy adnabod llwybrau o ddechreuwyr i elît, gan ddatblygu a meithrin rhwydweithiau mewnol ac allanol, gan gynnwys cysylltiadau academaidd, ac mae’n ymdrechu i gynnal ein hachrediad TASS. Yn ddiweddar, roedd Imelda wedi gweithio ar ddatblygu Ysgoloriaeth Chwaraeon Elît Rhyngwladol ar gyfer ein hathletwyr tramor, gan sicrhau bod eu profiad ym Mhrifysgol Abertawe o safon eithriadol a chreu amgylchedd cartref oddi cartref iddynt, a chefnogi gyda hyblygrwydd academaidd a llwyddiant chwaraeon. Fel cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe, cwblhaodd Imelda ei MSc mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae Imelda bob amser wedi bod yn angerddol dros chwaraeon ar lefel uchel, wrth iddi fod yn athletwraig athletau rhyngwladol, yn arbenigo yn y naid hir. Ffaith ddiddorol: mae Imelda’n hoffi treulio ei phenwythnos gyda’i theulu ac yn cerdded gyda’i dau adargi melyn, Max a Penny.

Cwrdd â Verity Cook - ein Swyddog Cefnogi Athletwyr.

Yn ein tîm Inspire, mae gennym ddau swyddog cefnogi athletwyr sy’n darparu gofal a chefnogaeth eithriadol i’n hathletwyr a’n hysgolorion. Mae Verity wedi bod yn rhan o’r tîm ers tua dwy flynedd erbyn hyn, gan ddarparu cefnogaeth o’r lefel uchaf i athletwyr perfformiad uchel, ac mae’n edrych ymlaen at weld beth mae’r ysgolheigion chwaraeon am ei gyflawni yn 2024. Mae Verity yn cwrdd ag ysgolheigion yn rheolaidd i sicrhau bod yr athletwyr yn cydbwyso eu ffocws chwaraeon a’u ffocws academaidd, gan ddarparu hyblygrwydd ym mywydau prifysgol ein hathletwyr er mwyn iddynt llwyddo yn eu gyrfaoedd deuol. Nid hwn yw’r tro cyntaf i Verity weithio ym myd chwaraeon. Treuliodd Verity flynyddoedd llawer gyda Triathlon Cymru, lle’r oedd hi’n gweithio fel cydlynydd rhaglen, gan helpu darparu cefnogaeth i raglenni perfformiad Triathlon Cymru. Mae Verity yn nofiwr brwd, ac yn aml yn hyfforddi gyda’r tîm nofio perfformiad uchel. Yn ystod mis Awst, roedd Verity wedi mynychu Pencampwriaeth Para Nofio’r Byd fel Rheolwr Tîm ym Manceinion, cyflawniad anhygoel a phrofiad gwych.

Cwrdd â Lloyd Ashley - Ein Swyddog Cefnogi Athletwyr.

Mae nawr yn amser i gyflwyno ein hail swyddog cefnogi athletwyr, Lloyd, sy’n gweithio’n agos gyda Verity. Mae Lloyd yn sicrhau bod ein hathletwyr a’n hysgolorion perfformiad uchel yn cydbwyso eu hastudiaethau a’u breuddwydion chwaraeon i’r gorau y gallant a’i flaenoriaeth yw cefnogi lles ac iechyd meddwl ein hathletwyr. Yn ddiweddar, mae Lloyd wedi bod yn gweithio ar ddogfen sy’n darparu’r manylion y mae eu hangen ar ein hathletwyr os ydynt yn chwilio am gymorth llesiant, o’r enw ‘Our People, Our Support’ y gellir dod o hyd iddi ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Mae Lloyd yn eiriolwr dros iechyd meddwl mewn chwaraeon, gymaint ei fod wedi creu ei gwmni ei hun - Living Well with Lloyd Ashley (LWLA), lle mae’n siarad â sefydliadau a chlybiau gwahanol i sicrhau bod pawb yn edrych ar ôl eu lles. Yn gyn-chwaraewr rygbi proffesiynol llwyddiannus, gan gynrychioli’r Gweilch a’r Scarlets, mae Lloyd yn ymwybodol o’r pwysau y gall chwaraeon rhoi ar unigolion, ac mae’n nod ganddo i gefnogi’r rheiny mae angen iddynt ddod o hyd i gydbwysedd rhwng chwaraeon a ffordd o fyw.

Gallwch gwrdd â’r ysgolorion mae Verity a Lloyd yn eu cefnogi yma.  

Rhannu'r stori