Llongyfarchiadau enfawr i Amy

Rydym wrth ein boddau bod ein hysgolhaig beiciwr trac, Amy Cole, wedi cystadlu yn ei digwyddiad pencampwriaeth y byd cyntaf ym Mhencampwriaethau'r Byd yr UCI yn Glasgow ym mis Awst.

Ymunodd Amy â'r beicwyr gorau ledled y byd yn y digwyddiad agoriadol yn Felodrom anhygoel Chris Hoy yn Glasgow.

Yn beilot ar gyfer ei phartner tandem, Lizzi Jordan, sy'n rhannol ddall, roedd Amy wrth ei bodd yn ennill medal efydd ar yr ail ddiwrnod yn y treial amser 1km B i Fenywod.

Gyda gwaith tîm ardderchog, enillodd Amy fedal aur ar y seithfed diwrnod yn y Sbrint Tîm Cymysg B gyda'i phartner Lizzi ac aelodau eraill y tîm sef Neil Fachie a Matt Rotheram.

Mae Amy, sy'n astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff ym Mhrifysgol Abertawe yn un o dros 90 o ysgolheigion sy'n cynrychioli'r Brifysgol ar hyn o bryd. Gallwch gael mwy o wybodaeth am ein rhaglenni ysgoloriaethau chwaraeon yma.

Mae popeth y mae angen i chi ei wybod am chwaraeon yn Abertawe ar ein gwefan:abertawe.ac.uk/chwaraeon.

Rhannu'r stori