Prifysgol Abertawe'n sefydlu partneriaeth aml-flwyddyn â Hoci Cymru.

Mae'n bleser gennym gyhoeddi partneriaeth nodedig, aml-flwyddyn â Hoci Cymru.

Mae'r bartneriaeth yn nodi dechrau pennod gyffrous newydd i Hoci Cymru a Phrifysgol Abertawe ac mae'n atgyfnerthu ein hymrwymiad cyffredin i feithrin talent a hyrwyddo hoci elît yn ein cyfleusterau perfformiad uchel.

Nod y bartneriaeth yw cefnogi'r rhaglen a'r amgylchedd perfformiad uchel presennol yma yn y Brifysgol, wrth barhau i feithrin a chadw athletwyr talentog â'r gefnogaeth, yr arweiniad a'r cyfleoedd cydweithio newydd cyffrous gyda Hoci Cymru.

Meddai James Mountain, Rheolwr Chwaraeon Strategol ym Mhrifysgol Abertawe,  "Bydd y bartneriaeth hon yn hwyluso ymagwedd gydweithredol at wella hoci ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol. Bydd yn creu cyfleoedd ychwanegol a gwell o ran chwarae, ymchwil, addysg, gweithgarwch masnachol, cynnal digwyddiadau mawr a datblygu'r amgylchedd o lawr gwlad hyd at berfformio ar y lefel uchaf."

Rhagor o wybodaeth yma.

Rhannu'r stori