Toby-Peyton Jones kayaking in Scotland

Toby yn cyrraedd y pump uchaf yn yr Alban!

Bu'n wythnos lwyddiannus i un o'n hysgolheigion chwaraeon, Toby Peyton-Jones, wrth iddo ymweld â'r Alban i gystadlu ym Mhencampwriaeth Rasio Dŵr Gwyllt (WWR) BUCS ar 18 ac 19 Tachwedd.

Teithiodd Toby gyda'r tîm i Aberfeldy yn yr Alban i gystadlu yng nghystadleuaeth caiacio clasurol y dynion. Gorffennodd Toby yn yr ail safle yn y gystadleuaeth ac roedd ei amser anhygoel, 7:38:26, o fewn pum eiliad i'r enillydd.

Hefyd, cymerodd Toby ran yng nghystadleuaeth caiacio gwib y dynion yn Grandtully yn yr Alban, lle daeth yn bumed, wrth i bob un o'r pump uchaf orffen o fewn eiliad i'w gilydd. Roedd y tywydd yn arw, gan gynnwys cenllif o law, gan wneud cyflawniad Toby yn fwy trawiadol byth!

Mae Toby wedi bod yn cystadlu yng ngharfan Rasio Môr Prydain Fawr dros y tair blynedd diwethaf, gan fynd i sawl Pencampwriaeth Ewrop a'r Byd. Cystadlodd ym Mhencampwriaeth y Byd ddiwethaf yn yr haf wrth iddo gynrychioli Prydain Fawr. Mae Toby yn gymharol newydd i rasio dŵr gwyllt ac yn ei ail dymor mae eisoes wedi cyflawni cymaint:

“Dyma ddisgyblaeth gymharol newydd i mi ond rwy'n mwynhau dysgu a herio fy hun.” – Toby Peyton-Jones

Mae Toby yn fyfyriwr yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Abertawe, gan astudio Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Bu'n padlo ers mwy na 10 mlynedd bellach, ac yn aml mae'n dweud ei fod yn byw ac yn bod yn y dŵr gan ei fod yn dwlu ar gymysgu chwaraeon a dŵr! Yn ei amser hamdden, mae Toby yn cydbwyso ei ymarfer â swydd hyfforddi, gan rannu ei gariad at chwaraeon dŵr drwy hyfforddi carfan o raswyr iau.

Ac nid caiacio yw'r unig gamp y mae Toby yn rhagori ynddi! Mae hefyd yn chwarae i dîm hoci cyntaf y dynion, gan gydbwyso astudio a chaiacio, ochr yn ochr ag ymarfer a diwrnodau gemau gyda'r tîm hoci. Mae’n ysgolhaig chwaraeon hynod drawiadol ac rydym yn falch o gyflawniadau Toby.

Cliciwch yma i gwrdd â mwy o'n hysgolheigion chwaraeon.

Rhannu'r stori