Gosodwyd carreg sylfaen y Brifysgol gan Frenin Siôr y Pumed ar 19 Gorffennaf 1920 a chofrestrodd 89 o fyfyrwyr (yn cynnwys 8 myfyrwraig) y flwyddyn honno. Erbyn mis Medi 1939, roedd 65 staff a 485 myfyriwr.

Yn 1947 dim ond dau adeilad parhaol oedd ar y campws: Abaty Singleton a'r llyfrgell.  Sylweddolodd y Prifathro ar y pryd, JS Fulton, fod angen ehangu'r ystâd ac roedd ganddo weledigaeth o gymuned hunangynhaliol, a fyddai'n cynnwys cyfleusterau lletya, cymdeithasol ac academaidd ar un safle. Daeth ei weledigaeth ef yn sail i gampws prifysgol cyntaf y Deyrnas Unedig.

Erbyn 1960 roedd rhaglen ddatblygu ar raddfa fawr yn mynd rhagddi a thrwy hon codwyd neuaddau preswyl newydd, Tŵr Mathemateg a Gwyddoniaeth, a Thŷ’r Coleg (a ailenwyd yn ddiweddarach yn Tŷ Fulton). Yn y 1960au hefyd aeth yr Athro Olek Zienkiewicz ati i ddatblygu'r "dull elfen gyfyngedig", a bu i'w dechneg chwyldroi dylunio a pheirianneg cynhyrchion gweithgynhyrchu. Roedd Abertawe yn dechrau dangos ei bod yn sefydliad y dylid ei gymryd o ddifrif.

Dechreuwyd ar y gwaith ar y pentref myfyrwyr yn Hendrefoelan yn 1971, sefydlwyd Llyfrgell Glowyr De Cymru yn 1973 ac agorwyd Canolfan Gelfyddydau Taliesin ar y campws yn 1984. Trosglwyddwyd yr Ysgolion Nyrsio Rhanbarthol i Abertawe ym 1992, ac agorwyd yr Ysgol Feddygaeth yn 2001.  Agorwyd y Technium Digidol yn 2005, a chwta dwy flynedd yn ddiweddarach agorodd y Brifysgol ei Sefydliad Gwyddor Bywyd, sy'n masnacheiddio canlyniadau a ddaw yn sgil gwaith ymchwil a wneir yn yr Ysgol Feddygaeth. Dechreuodd y gwaith o godi ail sefydliad Gwyddor Bywyd yn 2009.

Yn 2012 fe ddechreuom brosiect uchelgeisiol o ehangu a datblygu campws, gan gynnwys agor ein Campws y Bae yn 2015; sef cartref y Coleg Peirianneg a’r Ysgol Reolaeth. Yn 2018 agorom y drws i ddau brosiect pellach, Y Coleg; menter ar y cyd Prifysgol Abertawe â Navitas (Coleg Rhyngwladol Cymru Abertawe, ICWS) a’r Ffowndri Gyfrifiadurol; cartref adrannau’r Coleg Gwyddoniaeth gan gynnwys Cyfrifiadureg a Mathemateg.

Fulton House 1960
Students 1960
College library 1960
Student Ball 1960