Dyddiad cau: 6 Mehefin 2024 (16:00 BST)
Gwybodaeth Allweddol
Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi'r Ysgoloriaeth Noddfa. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd cyfartal mewn addysg uwch i bobl sy'n ceisio lloches yn y DU, a’u helpu i gyflawni eu potensial llawn a’u huchelgeisiau.
Bydd yr Ysgoloriaeth Noddfa yn cefnogi un myfyriwr ar gwrs Meistr Ôl-raddedig a Addysgir bob blwyddyn academaidd. Mae'r Ysgoloriaeth yn cynnig un dyfarniad ar gyfer rhaglen meistr ôl-raddedig a addysgir gymwys sy'n dechrau ym mis Medi 2024, ac mae'n cynnwys:
- Bwrsariaeth ffïoedd dysgu lawn i dalu ffïoedd dysgu cwrs meistr ôl-raddedig a addysgir.
- Mae grant ar gael i helpu tuag at gostau byw ac astudio a'r uchafswm yw £12,000 ar gyfer hyd y cwrs, a delir fel ariantal rheolaidd.
Yn ogystal â'r cymorth ariannol a restrir uchod, bydd gan ddeiliad yr ysgoloriaeth noddfa fynediad at wasanaethau BywydCampws a gwasanaethau cymorth y Brifysgol drwy gydol ei astudiaethau, gan gynnwys cymorth llyfrgell ac enw cyswllt yn nhîm staff y Brifysgol
Cymhwyster
Rhaid i ymgeiswyr fodloni'r holl feini prawf canlynol i gael eu hystyried yn gymwys i gyflwyno cais am Ysgoloriaeth Noddfa Prifysgol Abertawe.
Mae un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
- Rydych chi'n Unigolyn sy'n Ceisio Lloches yn y DU
- Rhoddwyd caniatâd i chi aros yn y DU ar sail disgresiwn neu Ddiogelwch Dyngarol
- Rydych chi'n bartner/ddibynnydd wedi'ch cynnwys ar gais ceisiwr lloches yn y DU
Sylwer: Rhaid bod partneriaid priod/sifil yn bartneriaid priod/sifil ar y dyddiad y gwneir cais am loches. Rhaid bod oed plant/llys-blant yn iau na 18 oed ar y dyddiad y gwneir cais am loches.
AC
- Rydych chi yn y Deyrnas Unedig
- Mae gennych gynnig amodol neu ddiamod gan Brifysgol Abertawe am fynediad ym mis Medi 2024 i gwrs gradd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir.
- Rydych chi'n bodloni’r gofynion IELTS sylfaenol sy'n gysylltiedig â'ch cynnig am le ar y cwrs, a holl amodau eraill eich cynnig, ac rydych chi'n cytuno i ymgymryd â phrawf SWELTS i bennu’ch statws IELTS fel rhan o'r broses cyflwyno cais, os bydd angen.
- Rydych chi wedi cael eich asesu gan Dîm Derbyn y Brifysgol fel rhywun sy'n ceisio lloches ac felly ystyrir eich bod yn fyfyriwr rhyngwladol.
- Rydych chi wedi cael eich asesu gan Dîm Cydymffurfiaeth a MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws fel ceisiwr lloches â’r hawl i astudio yn y DU
- Rydych chi'n mynychu ysgol, coleg neu grŵp cymunedol neu wirfoddol ar hyn o bryd sy’n gallu rhoi geirda i gefnogi eich cais
- Mae gennych gyfrif banc yn y DU
Rhaid i ymgeiswyr fodloni POB UN o'r meini prawf cymhwysedd caeth hyn a bod mewn sefyllfa i brofi eu hamgylchiadau er mwyn cyflwyno cais cyn y dyddiad cau sef 4pm ddydd Iau 6 Mehefin 2024. Ni chaiff ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r holl feini prawf eu hystyried yn gymwys am yr ysgoloriaeth. Anogir ymgeiswyr nad ydynt yn sicr o'u cymhwysedd i gysylltu â SanctuaryScholarship@abertawe.ac.uk am gyngor pellach.
Mae rhaglen Meistr Ôl-raddedig a Addysgir gymwys yn radd amser llawn neu ran-amser sy'n arwain at gymhwyster MA/MSc/LLM. Mae deiliaid cynigion ar y rhaglenni gradd canlynol yn gymwys i gyflwyno cais am yr Ysgoloriaeth Noddfa:
- Rhaglenni meistr a addysgir amser llawn.
- Rhaglenni meistr a addysgir rhan-amser (yn achos rhaglenni rhan-amser, cynigir cymorth ariannol ar sail pro rata).
*Sylwer nad yw rhaglenni gradd Meistr a noddir gan y GIG yn gymwys, gan gynnwys Nyrsio, Gwyddor Gofal Iechyd a Meddygaeth. Nid yw cyrsiau sy'n cynnwys teithio dramor a/neu leoliadau gwaith yn gymwys. Darllenwch yr Amodau a thelerau Ysgoloriaeth Noddfa am ragor o wybodaeth am raglenni cymwys.
Cyllid
Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu cost lawn ffïoedd dysgu.
Mae grant ar gael i helpu tuag at gostau byw ac astudio a'r uchafswm yw £12,000 ar gyfer hyd y cwrs, a delir fel ariantal rheolaidd.
Caiff dyddiadau taliadau perthnasol eu cadarnhau ar ôl rhoi gwybod i'r ymgeiswyr llwyddiannus.
Rhaid nad yw ymgeiswyr yn gymwys i dderbyn cyllid prif ffrwd yn y DU, e.e. Cyllid Myfyrwyr.
Sut i wneud cais
Yn gyntaf, bydd angen i chi feddu ar gynnig amodol neu ddiamod i astudio ym Mhrifysgol Abertawe ar gwrs meistr perthnasol. Mae Future Learn yn darparu cwrs ar-lein am ddim i helpu ceiswyr lloches drwy'r broses cyflwyno cais i brifysgolion y DU.
Rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais cyn y dyddiad cau, sef 4pm ddydd Iau 6 Mehefin 2024. Dylech ddarllen Ysgoloriaeth Noddfa Nodiadau Canllaw i Ymgeiswyr cyn cwblhau eich cais.
I gyflwyno cais, cwblhewch a chyflwyno'r canlynol i SanctuaryScholarship@abertawe.ac.uk:
- Ffurflen Gais Ysgoloriaeth Noddfa
- Datganiad personol
- Copi o'ch llythyr cynnig gan Brifysgol Abertawe
- Llythyr geirda gan rywun â pharch yn y gymuned sy'n ymwybodol o'ch amgylchiadau ac sy'n gallu cadarnhau eich addasrwydd i astudio gradd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir (er enghraifft, athro neu hen athro, aelod o grŵp cymunedol neu sefydliad sydd wedi bod yn eich cefnogi, etc).
- Tystiolaeth o'ch statws mewnfudo presennol/disgwyliedig*
*Mae cymhwysedd i gyflwyno cais am yr ysgoloriaeth yn amodol ar gael cadarnhad llwyddiannus o statws mewnfudo'r myfyriwr ar adeg y cais, a bydd yn rhaid i dderbynnydd llwyddiannus yr ysgoloriaeth ail-gadarnhau ei statws mewnfudo cyn cofrestru ar ei radd Meistr Ôl-raddedig a Addysgir.
Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod a yw eu cais yn bodloni'r meini prawf cymhwyso o fewn 10 niwrnod i'r dyddiad cau terfynol, sef 6 Mehefin 2024.
Ar ôl eu cymeradwyo, caiff ceisiadau eu hanfon i'w hasesu gan Banel Adolygu’r Ysgoloriaeth Noddfa. Efallai y bydd yn rhaid i ymgeiswyr ddod i gyfweliad, i'w gynnal ym mis Mehefin 2024.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus am yr ysgoloriaeth yn cael eu hysbysu am y dyfarniad erbyn 1 Awst 2024.
Sylwer mai proses gystadleuol yw hon, ac o ganlyniad, ni fydd yr holl geisiadau'n llwyddiannus. Mae gan bob myfyriwr yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir ynghylch ei gymhwysedd i gyflwyno cais am yr Ysgoloriaeth Noddfa – e-bostiwch SanctuaryScholarship@abertawe.ac.uk am ragor o fanylion. Rhaid cyflwyno apeliadau o fewn 3 diwrnod gwaith i’r cais gael ei wrthod, a rhaid cynnwys tystiolaeth ategol berthnasol.
Sylwer mai penderfyniadau terfynol yw'r rhai a wneir gan Dimoedd Cydymffurfiaeth a MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws y Brifysgol ynghylch statws mewnfudo myfyrwyr a'u hawl i astudio yn y DU, oni bai y gallwch chi ddarparu tystiolaeth newydd mewn perthynas â'ch hawl gyfreithiol bresennol i aros ac astudio yn y DU.
- Os oes gennych ymholiadau am y broses cyflwyno cais am yr Ysgoloriaeth Noddfa, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â thîm Arian@BywydCampws yn SanctuaryScholarship@abertawe.ac.uk.
- Os oes gennych ymholiadau am gyflwyno cais am gwrs, cysylltwch â'r Tîm Derbyn: admissions@abertawe.ac.uk.
- I holi am statws mewnfudo, neu am gymhwysedd i astudio fel ceisiwr lloches, cysylltwch â thîm MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws: international.campuslife@swansea.ac.uk.
- Os oes gennych ymholiadau am sgorau IELTS, cysylltwch â thîm y Gwasanaeth Hyfforddiant Iaith Saesneg elts@swansea.ac.uk.
Cynigir ysgoloriaethau a bwrsariaethau Prifysgol Abertawe ar sail y ffaith y gallant newid. Yn ogystal mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i gyfyngu ar nifer yr ysgoloriaethau a'r bwrsariaethau sydd ar gael.
Rhaid derbyn ceisiadau erbyn y dyddiad cau, sef 4pm ddydd Iau 6 Mehefin 2024.