Gwraig feichiog yn gorwedd ar soffa mewn ystafell

Dyfarnwyd mwy na £2m o gyllid ymchwil i Brifysgol Abertawe i ymchwilio i effaith newid yn yr hinsawdd ar fenywod beichiog.

Mae’r cyllid ymchwil gwerth £2.2m gan Wellcome yn adleisio ymdrech ryngwladol i ddeall sut mae mamau'n ymdopi â newid yn yr hinsawdd, yn benodol effeithiau gwres. Bydd yr ymchwil yn canolbwyntio ar famau o gymunedau difreintiedig yng Nghymru ac yn Llundain, gan ddadansoddi data cysylltiedig am dymheredd, iechyd mamau ac ymateb biolegol mamau i wres, a bydd yn gwahodd mamau i gymryd rhan mewn grwpiau ffocws a chyfweliadau.  

Mae'r Prif Ymchwilydd, Dr Richard Fry, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn arwain y tîm ymchwil o wyddonwyr data a gwyddonwyr hinsawdd, bydwragedd, meddygon ac ymchwilwyr eraill. 

Meddai: “Mae llawer o astudiaethau o iechyd mamau a newid yn yr hinsawdd mewn gwledydd eraill, ond dyma'r astudiaeth gyntaf o'i bath yn y DU. Mae'n hynod bwysig ein bod ni'n deall hyn yn well, gan fod tonnau gwres diweddar wedi dangos pa mor anodd y gall hyn fod i fenywod beichiog. 

“Dros y blynyddoedd nesaf, byddwn ni’n dadansoddi'r data ac, yn bwysicach byth, yn siarad â mamau am eu profiadau. Mae iechyd mamau a phlant yn un o gonglfeini ymchwil Prifysgol Abertawe a pholisi Cymru ar ffurf Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, felly dyma bwnc sy'n agos at ein calonnau ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at ddefnyddio ein sgiliau i feithrin dealltwriaeth well o bwnc sydd o bwys byd-eang.” 

Dechreuodd yr ymchwil ym mis Ionawr 2024 pan wnaeth y Brifysgol chwilio am famau i gymryd rhan yn yr ymchwil. Gofynnwyd iddynt am eu profiadau a gwahoddwyd iddynt fynegi eu barn a'u teimladau am newid yn yr hinsawdd. 

Yn nes ymlaen yn yr astudiaeth, bydd mamau a thadau'n cymryd rhan mewn cyfres o weithdai sydd â'r nod o feithrin y sgiliau i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed gan wleidyddion a llunwyr polisi. 

Meddai Madeleine Thomson, Pennaeth Effeithiau Newid yn yr Hinsawdd ac Ymaddasu yn Wellcome: “Dydy'r DU ddim yn ddiogel rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar iechyd, fel rydyn ni wedi ei weld drwy'r tonnau gwres digynsail dros y blynyddoedd diwethaf. Mae cysylltiad gormodol â gwres llethol yn beryglus i unrhyw un, ond mae'r risg honno'n cynyddu os ydych chi'n feichiog – i'r fam a'r baban. 

“Ond go brin yw ein gwybodaeth o hyd am union effaith gwres llethol ar famau a babanod ac, yn bwysig, yr atebion posib. 

“Rydyn ni'n gobeithio y bydd y prosiect hwn yn dechrau llenwi rhai o'r bylchau hyn a llywio polisi i ddiogelu iechyd y rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed gan newid yn yr hinsawdd.”

Ein Uchafbwyntiau Ymchwil  - Arloesi ym maes iechyd

 

Rhannu'r stori