Charley Davies yn cyrraedd y podiwm ym Mhencampwriaethau WKU y Byd!

Rydym bob amser yn mwynhau dathlu ein Hysgolheigion Chwaraeon a'r tro hwn, rydym ni'n rhoi Charley Davies dan y sbotolau, a gamodd i'r llwyfan ym Mhencampwriaeth WKU y Byd y mis diwethaf, gan ennill pedair medal!

Teithiodd Charley i Alberta, Calgary, Canada i gystadlu yn y digwyddiadau Ymladd Pwynt a Karate Kumite a gynhaliwyd yng  Nghyfadeilad Chwaraeon Seven Chiefs, sydd â lle i 5,00 o wylwyr, rhwng 16 a 22 Hydref 2023.

Mae Charley yn fyfyriwr yn ei blwyddyn gyntaf sy'n astudio Addysg ac mae hi’n ddeiliad Ysgoloriaeth Chwaraeon yn y crefftau ymladd.

Dechreuodd Charley gicfocsio yn 4 oed, a'r mis diwethaf, cafodd lwyddiant anhygoel ym Mhencampwriaethau'r Byd wrth ennill tair medal efydd ac un fedal arian.

Mae hyn yn llwyddiant anghredadwy, ac rydym yn falch iawn o'r hyn mae Charley wedi'i gyflawni.

Canlyniadau:

  • 55kg; EFYDD mewn Ymladd Pwynt
  • 55kg; EFYDD yn Karate Kumite
  • Pwysau agored; EFYDD mewn Ymladd Pwynt
  • Pwysau agored; ARIAN yn Karate Kumite

Nid yn unig mae gan Charley frwdfrydedd mawr am gicfocsio, ond mae'n hoffi sioeau cerdd hefyd. Ar hyn o bryd, mae hi'n chwarae rôl Elle Woods mewn cynhyrchiant llwyfan o Legally Blonde gyda Stage 8 Theatre School. Pan nad yw hi'n cystadlu, mae hi wrth ei bodd yn treulio amser gyda'i theulu a'i ffrindiau ac yn bwyta pizza, ac mae'n gweld ei eisiau pan fydd hi ar ddeiet cyn cystadlaethau.

Rwyf yn dwlu ar yr amgylchedd a’r ymdeimlad o arfer mae cicfocsio'n ei greu. Mae'n teimlo fel ail deulu” – Charley Davies

Cynhelir digwyddiad Pencampwriaethau WKU y Byd bob blwyddyn ym mhedwar ban byd, a chynhaliwyd digwyddiad 2022 yn agos i ni, yng Nghanolfan Genedlaethol Chwarae Cymru yng Nghaerdydd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad gwych hwn yma.

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth am ein Hysgolheigion Chwaraeon.

Rhannu'r stori