Trosolwg o'r Cwrs
**Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS? Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol**
Gallwch ennill sylfaen drwyadl yn y gwyddorau sy’n tanategu meddygaeth fodern gyda’n BSc newydd yn y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol.
Byddwch yn astudio amrywiaeth gynhwysfawr o bynciau sy’n cynnwys anatomi a ffisioleg ddynol, bioleg celloedd, geneteg, ffarmacoleg a niwrowyddoniaeth, ynghyd â’u perthnasedd clinigol a chymhwysol.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o sut mae’r corff dynol yn gweithio, beth sy’n digwydd pan fydd yn mynd o’i le, sut yr ydym yn trin anhwylderau ar hyn o bryd, a’r potensial ar gyfer therapiwteg newydd.
Mae’r cwrs hwn yn darparu sylfaen gynhwysfawr sy’n berthnasol ar gyfer gyrfa mewn ymchwil labordy, meddygaeth a menter fasnachol yn y gwyddorau bywyd. Mae gennym ddewis o 3 llwybr Cyflogadwyedd yn eich ail flwyddyn (yn amodol ar gymhwysedd): Y Gwyddorau Meddygol mewn Ymarfer, Menter ac Arloesi, ac Ymchwil Gwyddorau Meddygol.