Trosolwg o'r Cwrs
Mae gan yr adran Peirianneg Sifil ym Mhrifysgol Abertawe enw ardderchog ymhell ac agos. Mae'r MSc mewn Peirianneg Sifil yn cynnig dealltwriaeth ddatblygedig a systemataidd, wedi'i chynllunio i'ch paratoi fel peiriannydd sifil credadwy.
Cewch eich hyfforddi ym maes dadansoddi a dylunio peirianneg sifil, yn arbennig ym maes technegau modelu a dadansoddi - meysydd lle mae arbenigwyr Prifysgol Abertawe wedi newid arferion diwydiannol modern yn sylweddol ym maes peirianneg sifil.
Caiff y cwrs ei achredu gan y Bwrdd Cymedrolwyr ar y Cyd (JBM), sy'n cynnwys Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE), Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol (IStructE), Sefydliad Siartredig Priffyrdd a Thrafnidiaeth (CIHT), a Sefydliad y Peirianwyr Priffyrdd (IHE).