Trosolwg o'r Cwrs
Os ydych chi’n gweithio mewn rôl gofal iechyd sy’n cynnwys dadansoddi data iechyd, gallai’r radd MSc Gwyddor Data Iechyd hon roi mynediad i chi i un o’r meysydd sy’n tyfu gyflymaf yn y DU.
Dyluniwyd y cwrs hwn i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol y bydd eu hangen arnoch fel Gwyddonydd Data Iechyd. Mae’n gradd yn cynnig pwyslais cryf ar sgiliau ymarferol a dadansoddol y gallwch eu defnyddio yn y gweithle ac a allai’ch gwneud yn fwy cyflogadwy. Mae ar gael fel cwrs amser llawn blwyddyn o hyd neu dros dair blynedd yn rhan-amser.
Mae gofal iechyd eisoes â pherthynas gref sefydledig â thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh), ac mae’n parhau i ehangu rheng flaen gwybodaeth yn barhaus wrth i ddulliau newydd o gael data am iechyd pobl gael eu datblygu. Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i brosesu’r data hwn er mwyn tynnu gwybodaeth werthfawr am boblogaeth (cymwysiadau epidemiolegol) neu’r unigolyn (cymwysiadau gofal iechyd wedi’u personoli) sydd â’r potensial i wella ansawdd bywyd ar raddfa fawr.